Lourdes Fernández yn Cyflwyno

Flamenco:Orígenes

15 – 16 Gorffennaf 2023

Mae Flamenco:Orígenes yn dathlu’r llu o ffurfiau celf a gyfrannodd at esblygiad fflamenco. Gallwn olrhain gwreiddiau fflamenco i bob cwr o’r byd, o wreiddiau masnach hynafol i lwybrau llongau modern. Drwy gydol y sioe, mae’r chwe pherfformiwr yn teithio o un cyfandir i’r llall, gan ddilyn sut y symudodd gwahanol bobloedd drwy Andalusia, gan ddod â’u celf gyda nhw.

Gelwir yr is-arddulliau fflamenco yn palos, ac yn ystod y sioe gwelwn sut mae’r palos hyn wedi tyfu o wahanol ddiwylliannau; fel y Guajiras a darddodd o Giwba, neu'r Zambra sydd â gwreiddiau Gogledd-Affricanaidd. Mae Orígenes wedi bod yn daith ddarganfod i’r artistiaid hefyd, gan eu harwain i dreiddio’n ddwfn i chwilio am wybodaeth a aeth bron yn angof, ac i ddychmygu sut beth oedd bywyd diwylliannol Andalusia ganrifoedd yn ôl.

Mae Lourdes Fernández a’i Chwmni Flamenco yn eich croesawu i ymuno â ni ar yr antur epig hon sy’n ymestyn dros sawl cyfandir a channoedd o flynyddoedd a darganfod mwy am y ffurf gelf hardd, gyfoethog a elwir yn fflamenco erbyn hyn.

Saturday night's performance is followed by an optional post-show talk.
 

FLAMENCO TASTER WORKSHOP

For those who want to find out more, we are also offering a 1-hour flamenco taster workshop on the afternoon of Sunday 16th of July, 4pm-5pm. This workshop is open to all ages and abilities, no prior flamenco experience is needed. During the workshop, you will get the chance to learn about flamenco music, song, and dance, from our full cast of performers! Please wear comfortable clothing and footwear, as there will be an opportunity to learn a short flamenco dance sequence at the end of the workshop for those who'd like to. Book your place now! We'd love to see you there!

Dates
Dydd Iau 15 Mehefin 2023, 19:30
Dydd Gwener 16 Mehefin 2023, 18:00
Dydd Sul 16 Gorffennaf 2023, 16:00