2 images of crossword

Sioeau dawns byw ledled De Cymru mewn cartrefi gofal a lleoliadau gofal iechyd

Mae Matteo Marfoglia, Artist Dawns a Choreograffydd, yn cyflwyno ei sioe ddawns fyw, ‘CrossWord’, mewn mannau awyr agored mewn cartrefi gofal ac ysbytai ledled De Cymru o ddiwedd mis Awst ymlaen. Cynhelir y perfformiadau mewn cowrtiau, gerddi a hyd yn oed meysydd parcio, wrth i'r preswylwyr a chleifion fwynhau'r profiad o'u ffenestri/balconïau gan ddilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol.

Dywedodd Matteo Marfoglia, coreograffydd y gwaith: "Daeth y syniad o'r awydd i ganfod ffyrdd newydd i ddod â dawns fyw i bobl, yn enwedig pobl fregus sydd wedi bod yn gwarchod yn ystod y misoedd diwethaf, yn ystod y cyfnod ansicr hwn."

Mae'n parhau drwy ddweud: "daeth y syniad i mi pan roeddwn yn dychmygu sut y buaswn yn creu perfformiadau dawns dan gyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol?! Yna, cofiais fod gen i sioe oedd yn barod, ac yn ddelfrydol ar gyfer y cyfnod hwn. Bu i mi goreograffu CrossWord yn 2016, ac mae pob perfformiwr yn dawnsio o fewn sgwâr 3x3 medr, a does neb yn cyffwrdd y naill a'r llall. Pwy fyddai wedi meddwl y byddai hynny'n ddefnyddiol ac mor berthnasol yn 2020, 4 mlynedd yn ddiweddarach?! Byddwn yn creu grid gyda thâp ar y llawr, a chordiau parasiwt llachar fydd yn denu llawer o sylw."

Mae ymarferion ar gyfer CrossWord yn cychwyn wythnos nesaf, a chynhelir y sioe gyntaf ar 27 Awst mewn cartref gofal yn rhanbarth Abertawe, gyda'r daith yn parhau hyd at ganol fis Medi, yn cynnwys 11 perfformiad mewn lleoliadau rhwng Abertawe a Gwent.

Sioe ddawns 20 munud o hyd yw CrossWord, a gafodd ei chreu yn wreiddiol yn 2016 ac aeth ar daith fyd-eang, ac mae'n edrych ar y syniad o iaith ac unigrwydd. Roedd gan Matteo ddiddordeb mewn gweithio gyda'i iaith frodorol (Eidaleg) a defnyddio gwahanol ddialogau i annog symudiad, mae geiriau'n troi yn sŵn ac yn cael ystyr arall. Sut allwn ni gysylltu ag iaith estron drwy ei sŵn a thonau, yn hytrach na'i hystyr, a sut all pedwar dawnsiwr unig gysylltu gyda'u symudiadau o bell.

Yn ystod y perfformiad, bydd y gynulleidfa yn gallu dod â'r gwaith ynghyd wrth iddo ddatblygu o'u blaenau, ar draws pedwar unawd, gyda phob un yn cyfarch y nesaf i greu clo gorfoleddus, rhythmig gyda'r holl grŵp.

Bydd Matteo Marfoglia ei hun yn perfformio yn CrossWord, ynghyd â thri pherfformiwr arall sy'n gweithio yng Nghymru, Camille Giraudeau, Ed Myhill a Marine Tournet, a chaiff y gwisgoedd eu creu gan artist a gwneuthurwr ffilm amlddisgyblaethol, Tina Pasotra.

Cyd-gynhyrchwyd CrossWord yn wreiddiol gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Festival of Voice yn 2016, i'w berfformio yn y Tŷ Dawns. Dyma'r tro cyntaf i'r sioe gael ei pherfformio mewn lleoliad awyr agored, ac mae ymarferion yn cychwyn yr wythnos nesaf i greu fersiwn newydd wedi'i haddasu, i’w pherfformio mewn lleoliadau gwahanol.

Mae'r prosiect wedi ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac yn cael ei gefnogi gan Ganolfan Mileniwm Caerdydd, Age Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Am ragor o ddyddiadau neu wybodaeth ewch i https://www.matteomarfoglia.com/ crossword-2020