The birds and Laurel and Hardy

Profiad Gwaith: Flog olaf Naomi

Roedd amserlen heddiw ychydig yn wahanol i'r pedwar diwrnod diwethaf. Gan mai dyma oedd diwrnod diwethaf Lea Anderson yn gweithio gyda'r dawnswyr yn y Tŷ Dawns, cafodd CDCCymru gyfranogiad lle'r oedd y dawnswyr yn cyflwyno casgliad o ddarnau yr oeddynt wedi gweithio arnynt yn flaenorol yn ystod yr wythnos. Cymerodd Lea ran yn y cyfranogiad hwn hefyd drwy gyflwyno bob darn ac egluro'r cysyniadau y tu ôl iddynt.

Yn gyntaf, dangosodd y dawnswyr ddarn o waith y bu iddynt ei ddatblygu ar ddiwrnod cyntaf Laboratori. Daeth yr ysbrydoliaeth sydd wrth wraidd y darn hwn o The Birds, sef ffilm gan Alfred Hitchcock o 1963. Torrodd Lea y ffilm yn ddarnau a rhoi clip byr i bob dawnsiwr i'w gopïo. Gwnaeth y briff yn hynod benodol drwy ddweud wrth y dawnswyr y gallant fod yn fodau dynol neu adar yn unig a bod rhaid iddynt gopïo'n union beth a welant yn fanwl gywir, boed hynny'n lleoliad y bawd neu dynhau'r ffrâm. Rhoddodd hyn her i'r dawnswyr oherwydd yn un clip, nid oedd yr un bod dynol nac aderyn, dim ond twll yn nho'r atig. Felly, roedd rhaid i'r dawnswyr ddefnyddio eu dychymyg i awgrymu presenoldeb y twll yn y to i'r gynulleidfa heb ei actio. Roedd gallu gweld sut aeth y dawnswyr ati i fynd i'r afael â'r dasg hon gyda brwdfrydedd o'r fath, gan sicrhau bod eu gwaith yn cyfateb yn union â'r briff. Roedd y canlyniad yn hynod effeithiol oherwydd fel aelod o'r gynulleidfa, gallwn weld y sylw anhygoel at fanylion a roddwyd yn y darn. 

Yna, aeth rhai o'r dawnsiwyr ymlaen i berfformio'r dawnsiau y bu iddynt eu creu ddydd Mercher. Ysbrydolwyd y darn gan ddawns a berfformiwyd gan y ddau ddigrifwr, Laurel a Hardy o'r ffilm Way Out West yn 1937. Gofynnodd Lea i'r dawnswyr eto am gopïo'r symudiadau'n union gyda sylw at fanylder. Unwaith yr oeddent wedi perffeithio'r ddawns gomig, rhoddodd Lea luniau i'r dawnswyr o waith celf Hannah Hoch o'r un cyfnod â Laurel a Hardy, ac roedd rhaid iddynt ddefnyddio'r rhain a'u hintegreiddio yn eu deuawdau Laurel a Hardy. Roeddwn i'n meddwl y byddai'n heriol cyfuno'r ddau gysyniad cryf sydd wedi'u cwmpasu yng ngwaith celf Hannah gyda'r ddawns gomig, ond roedd y canlyniad yn hynod rymus oherwydd gallwn weld sut oedd bob dychymyg wedi'u haenu ar ben dawns Laurel a Hardy, gan greu effaith wych.

Cafodd y darn terfynol a ddangoswyd yn y cyfranogiad ei ysbrydoli gan waith celf unigolyn a oedd yn torri lluniau o blant ar ddeunydd pacio a'i gludo nhw i gefndir o dirlun. Rhoddodd Lea dasg i'r dawnswyr o gopïo ystum un plentyn yr un a gofyn iddynt sefyll yn yr un ffordd a welir yn y llun. Unwaith yr oedd y dawnswyr yn eu llefydd, rhoddwyd cyfle i rai ddisodli ystum 'plentyn' arall. Yn fy marn i roedd ychwanegu elfennau symudol at y darn wirioneddol yn dod â'r darlun yn fyw. Unwaith yr oedd rhai o'r dawnswyr wedi disodli 'plant' eraill, rhoddodd Lea gyfle iddynt ychwanegu symudiad at eu safleoedd a oedd gynt yn llonydd. Teimlai fel bod personoliaeth bob plentyn wirioneddol yn disgleirio drwodd, yn gwahodd y gynulleidfa i gysylltu â phob cymeriad. Yn gyffredinol, roedd hyn yn hynod effeithiol i weld y darlun yn dod yn fyw, a chredaf fod y dawnswyr wedi ymgymryd â rolau'r plant yn y darlun yn wych.

Roedd y cyfranogiad yn ffordd wych i ddiweddu fy wythnos yn CDCCymru gan ei fod yn rhoi'r cyfle i mi adlewyrchu ar yr hyn yr oeddwn wedi'i arsylwi trwy gydol fy amser yma. Rwyf wedi cael amser arbennig yn y Tŷ Dawns yn gwylio'r dosbarthiadau dawns, yn arsylwi'r ffordd y mae Lea yn ysbrydoli'r dawnswyr ac yn dysgu sut mae darnau'n datblygu. Ni allaf ddisgwyl cael ymuno â CDCCymru eto ddechrau fis Medi fel aelod o'u rhaglen Gyswllt i barhau â'm hyfforddiant a fydd yn fy helpu i, gobeithio, i ddod yn ddawnsiwr cyfoes yr un fath â'r rheiny yn CDCCymru. Ni allaf ddiolch digon iddynt am roi cyfle mor wych i mi, yn treulio wythnos mewn cwmni arbennig.

 

Darllenwch flogiau Naomi yma