Yr Ystafell Las
Mae'r Ystafell Las yn fan amlbwrpas y gellir ei defnyddio fel y mae, neu dynnu'r seddau'n ôl i gael lle ymarfer mwy, neu roi seddau ychwanegol ar gyfer gwahanol gyfluniadau cynulleidfa.
Croeso i'r Ystafell Las!
Mae gan yr Ystafell Las, y brif stiwdio cynhyrchu, y manyleb technegol o ansawdd uchaf ar gyfer cynhyrchu a chyflwyno dawns. Mae ei system hedfan gwrthbwysau a’r 100 sedd mewn rhesi y gellir eu tynnu’n ôl yn gwneud hwn yn ofod hynod amlbwrpas ar gyfer cynhyrchu a pherfformio.
Mae’r Ystafell Las hefyd wedi cael ei llogi gan ddarlledwyr megis BBC Wales ac S4C ar gyfer ffilmio.
Mae'r Tŷ Dawns yn gwbl hygyrch gyda lifft ar gyfer y rhai sy'n methu â defnyddio'r grisiau a dyraniadau seddi ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn ar gyfer perfformiadau.
Am fanylion llawn ynghylch yr hyn sydd gan Dŷ Dawns i'w gynnig - lawrlwythwch y Manylebau Technegol.
Nodweddion:
-Llawr cyfan â sbrings
-Gorchudd llawr Harlecwin Llwyd ar goed
-Barrau Bale Parhaol ar hyd dwy wal.
-Barrau Bale Cludadwy
-Wal gyfan â drych
-Ffenestri mawr ar gyfer golau naturiol
-System lenni sy'n gallu gorchuddio'r waliau, ffenestri a drychau.
Manylion:
- 10 x 10 medr o le i ymarfer neu gynnal dosbarth.
-System PA ar gyfer perfformio
Offer Ychwanegol ar gael:
-Barrau Bale Cludadwy
-Allweddell Drydan
-Cadeiriau sy'n plygu
-Teledu sgrîn fflat at drolïau
-bwrdd gwyn mawr / siartiau fflip cludadwy
Noder: oherwydd ein llawr dawnsio proffesiynol, rydym ond yn caniatáu sanau, traed noeth, ac esgidiau sydd â gwadn nad ydynt yn marcio yn y stiwdio.
Os ydych yn bwriadu ymarfer mewn esgidiau uchel, esgidiau tap, esgidiau sydd â gwadn gwyn neu ddu, neu unrhyw fath o esgidiau eraill, mynnwch sgwrs gyda ni’n gyntaf er mwyn inni allu eich cynghori.
Ein Cefndir:
Mae'r Tŷ Dawns wedi ei leoli ym Mae Caerdydd ac yn cynnwys man perfformio, stiwdio bale a nifer swyddfeydd.
Mae gennym hefyd ystafell cwpwrdd dillad fach a gweithdy technegol.
Rydym yn sefydliad gwadd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Dod o hyd i ni:
Mae mynedfa'r Tŷ Dawns yng nghefn Canolfan Mileniwm Cymru, gyferbyn â swyddfeydd Llywodraeth Cymru (Tŷ Hywel). Mae oddeutu 2-3 munud ar droed o du blaen y Ganolfan.
Gallwch ein cyrraedd mewn car, ar drên, beic neu fws. Mae gwasanaethau bws yn stopio y tu allan i Ganolfan y Mileniwm ac mae yna le i chi gadw eich beiciau wrth y drysau i'r Tŷ Dawns. Os ydych yn gyrru, mae gan Fae Caerdydd nifer o gyfleusterau parcio. Mae Q-Park Bae Caerdydd gyferbyn â Chanolfan Mileniwm Cymru ar Stryd Pierhead ac mae ar agor 24 awr y dydd, defnyddiwch CF10 4PH i wneud eich ffordd i'r cyfeiriad cywir.
Am unrhyw wybodaeth arall ynglŷn â thrafnidiaeth, parcio i'r anabl neu fynediad ewch i wefan Canolfan Mileniwm Cymru yma