Kin Connected logo

KiN: Ar-lein - menter newydd ar-lein i gysylltu artistiaid a chynulleidfaoedd drwy ddawns.

Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) yn lansio ei raglen newydd ar-lein, KiN: Ar-lein, ar ddydd Iau 16 Ebrill ar draws ei wefan a sianelau cyfryngau cymdeithasol fel rhan o ddymuniad y Cwmni i greu cymuned ar-lein i ddawns gyda chynulleidfaoedd, cyfranogwyr a'r sector.

Mae'r ffordd rydym yn dweud straeon trwy ddawns yn hynod bwysig yn ystod y cyfnod bregus hwn.  Bydd KiN: Ar-lein yn rhaglen fydd yn cynnwys rhai o'r gweithiau mwyaf poblogaidd sydd heb eu harddangos, yn ogystal â chynnal dosbarthiadau dawns i oedolion a phlant, a lansio cyfle comisiynu newydd i gefnogi'r sector ac artistiaid llawrydd yn ystod y cyfnod hwn sy'n galw am greadigrwydd.

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn creu gwaith dawns gwych gyda phob math o bobl, ac ar gyfer pob math o bobl o wahanol lefydd, gan deithio ar draws Cymru, y DU ac yn Rhyngwladol.  Gydag arloesedd a dychymyg, mae CDCCymru yn dymuno ehangu'r sbectrwm o beth all dawns ei gyflawni i ganiatáu mwy o bobl i greu, gwylio, cymryd rhan, a dysgu am ddawns yng Nghymru ac ar draws y byd.
 

Mae KiN: Ar-lein yn rhan o nod digidol y Cwmni i gefnogi artistiaid y tu allan i'r stiwdio yn ogystal â chyrraedd gwahanol gymunedau. Yn ystod y 12 mis diwethaf mae CDCCymru wedi bod yn archwilio ffyrdd newydd o ddefnyddio digidol fel rhan o'u gwaith, megis dawnswyr yn gweithio o bell gydag artistiaid rhyngwladol; datblygu syniadau fel rhan o'r llwyfan arbrofol, Laboratori, yn ogystal â bod yn rhan o ddiwrnod digidol BBC Dance Passion.  Mewn ymateb i Covid-19, mae CDCCymru wedi cyflymu lansiad ei raglen ddigidol i gefnogi ac ymgysylltu artistiaid a chynulleidfaoedd sy'n hunan ynysu, a helpu i gysylltu cymunedau drwy symudiad creadigol.

Mae KiN: Ar-lein yn cynnwys 4 cain sylfaenol: Gwylio Gyda'n Gilydd, Dawnsio Gyda'n Gilydd, Creu Gyda'n Gilydd a Dysgu'n Gyda'n Gilydd, gyda chynnwys ym mhob cainc ar gyfer Oedolion, Plant, a dawnswyr Proffesiynol neu ddawnswyr sy'n hyfforddi.

Mae KiN: Ar-lein yn lansio ar ddydd Iau (16 Ebrill) a cheir hefyd perfformiad newydd yn cael ei ffrydio'n fyw gan 8 o ddawnswyr y cwmni a 2 ddawnsiwr prentis sy'n hunan ynysu yn eu cartrefi, sydd wedi dod ynghyd i gyflwyno fersiwn wedi'i haddasu o Alexandra Waierstall’s 2067: Time and Time and Time, a gafodd ei chreu yn wreiddiol gyda'r cwmni ar gyfer ei daith Gwanwyn 2020. Bydd y darn byw hwn, y cyntaf i'w berfformio yn ystod cyfnod o hunan ynysu, yn cael ei berfformio ar YouTube ar ddydd Iau 16 Ebrill am 2pm.

Ar ddydd Iau (23 Ebrill) ceir hefyd perfformiad ffilm ddawns fer wedi'i hysbrydoli gan  Why Are People Clapping!? Ed Myhill mewn ymateb i'r ‘Clap for Carers’ wythnosol fel diolch i'r GIG a Gweithwyr Allweddol ar nos Iau, fydd yn cael ei rhannu ar-lein ar ôl y clap cenedlaethol am 8pm.

Mae CDCCymru hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â BBC Culture in Quarantine a BBC Cymru i gyrraedd y rhai sy'n hunan ynysu dros yr wythnosau nesaf. Darlledir y digwyddiad cyntaf ar BBC iplayer ar ddydd Gwener 17 Ebrill, 11am pan y rhennir dosbarth dyddiol CDCCymru ledled Cymru a'r DU. Bydd dosbarth bale yn cael ei addysgu i ddawnswyr y cwmni yr wythnos hon, ac mae croeso i wylwyr ymuno o gartref.  Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd y Cwmni hefyd yn lansio ei fenter newydd, Llwybrau Dilyniant Cymru, fydd yn gomisiwn newydd i weithwyr llawrydd.


Mae CDCCymru yn cael ei adnabod am ei fynediad agored i'w stiwdios yn ystod dosbarthiadau ac ymarferion, ac mae ganddo ethos o geisio gwneud dawns mor hygyrch â phosib. Mae'r rhaglen ar-lein yn ddilyniant o rai o'r rhaglenni ac adborth presennol gan gynulleidfaoedd ac artistiaid ar-lein ar yr hyn yr hoffant ei weld. Yn ystod eu hwythnos gyntaf o hunan ynysu, bu i ddawnswyr y Cwmni fireinio eu sgiliau creadigol drwy greu, cyfansoddi a golygu ffilm fer “Dancing Together, Apart” fel rhan o #Digithon Wales Arts Review, sydd wedi helpu i godi dros £6500 i artistiaid Llawrydd sydd wedi colli gwaith yn sgil y cyfyngiadau ar symud.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Paul Kaynes: "Mae dawnswyr yn cyfathrebu mewn ffordd sy'n bwysig i'r byd ar hyn o bryd - drwy adrodd straeon drwy symudiad gweledol a chyfuno ffitrwydd gyda chreadigrwydd. Rydym yn gwahodd pobl i ymuno â ni drwy wylio a dawnsio yn eu cartrefi: mae dawns yn un o'r ffyrdd gwych i ni fwydo ein hochr artistig, ac yn y pen draw, cadw'n heini yn ein hystafelloedd byw."

Gellir canfod manylion llawn ar KiN: Ar-lein yn ndcwales.co.uk ac ar y cyfryngau cymdeithasol @NDCWales