Mynediad

Ymfalchïwn yn ein croeso Cymreig cynnes a’n gallu i sicrhau bod pawb yn teimlo bod croeso iddynt pan fyddant yn ymweld.

Rhedeg yn hwyr? Peidiwch â chynhyrfu...

Dewch yn syth i’r Tŷ Dawns gan y bydd gennym ni hefyd gopi o’n gwerthiant tocynnau.

Cynllun Mynediad

Fel rhan o swyddfa docynnau Canolfan Mileniwm Cymru rydym yn aelod o Hynt.

Mae Hynt yn gynllun mynediad cenedlaethol sy’n gweithio gyda rhwydwaith o theatrau a chanolfannau celfyddydau ledled Cymru.  Mae gan ddeiliaid cardiau Hynt hawl i gael tocyn rhad ac am ddim i Ofalwr neu Gynorthwyydd Personol.

Dewch i wybod mwy am Hynt yn WMC http://www.wmc.org.uk/yourVisit/AccessInformation/AccessScheme/

Prynu a Chaslgu Tocynnau

Mae’r Ystafell Las yn cynnig 4 sedd i gadeiriau olwyn a gofod i gydymaith.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn hysbysu'r Swyddfa Docynnau pan fyddwch yn archebu eich anghenion mynediad.

Os byddwch yn dod â Chi Tywys rhowch wybod i ni - byddwn yn gwneud siŵr bod lle iddynt yn y Tŷ Dawns a bod dŵr iddynt hefyd!

Cyfleusterau’r Tŷ Dawns

Mae'r tŷ dawns yn gwbl hygyrch drwyddo draw - cyhoeddus a thu ôl i'r llwyfan. 

Lleolir lifftiau ym mlaen tŷ ac tu ôl i'r llwyfan i bob lefel ac i bob man.

 

Parcio anabl

Mae gofod parcio y gellir eu harchebu ymlaen llaw o amgylch Canolfan Mileniwm Cymru. Rhaid archebu’r rhain ymlaen llaw pan fyddwch yn archebu eich tocyn i weld sioe yn y Tŷ Dawns. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

http://www.wmc.org.uk/yourVisit/AccessInformation/DisabledCarPark?lang=cy-GB

Toiledau a chawodydd.

Mae gennym doiledau anabl wedi’u lleoli ar bob llawr, blaen tŷ a thu ôl i’r llwyfan.