Cyfleusterau
Nid yn unig mae’r Tŷ Dawns yn gartref i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ond mae hefyd yn gyfleuster cynhyrchu o’r radd flaenaf yn ogystal â gofod perfformio ac ymarfer ar gyfer artistiaid lleol, grwpiau ieuenctid a chwmnïau teithiol ledled y DU a thu hwnt.
Cyfleusterau ar gyfer cwmnïau sy’n ymweld
Mae gan y Tŷ Dawns ddwy stiwdio ddawns, gofod swyddfa ac ardal lolfa. Mae gan y brif stiwdio cynhyrchu, yr Ystafell Las, y fanyleb dechnegol o ansawdd uchaf ar gyfer cynhyrchu a chyflwyno dawns, gan gynnwys 100 o seddi mewn rhesi y gellir eu tynnu yn ôl. Mae’r ail stiwdio, Man Gwyn, yn stiwdio ymarfer sgwâr syml gyda barres bale, drychau a gorchuddion llwyd cylch cyflawn. Mae’n ddelfrydol ar gyfer ymarfer, clyweliadau neu gyflwyniadau personol.
Dod i weld sioe yn y Tŷ Dawns?
Mae'r Tŷ Dawns yn gwbl hygyrch gyda lifft ar gyfer y rhai sy'n methu â defnyddio'r grisiau a dyraniadau seddi ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Rhowch wybod i'r swyddfa docynnau wrth brynu tocyn os ydych angen gofod i gadair olwyn. Mae parcio i'r anabl hefyd ar gael trwy ffonio Canolfan Mileniwm Cymru ar 029 2063 6464.
Mae gennym lolfa fechan, ond nid oes cyntedd neu gyfleusterau lluniaeth, er bod gennym bellach far dros dro ar gael yn y rhan fwyaf o berfformiadau gyda’r nos. Mae digon o luniaeth ar gael yng Nghanolfan Mileniwm Cymru neu mewn sawl lle ym Mae Caerdydd.