zoom DfP class

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac English National Ballet yn symud eu sesiynau Dawnsio ar gyfer Parkinson's ar-lein

Mae rhaglen Dawnsio ar gyfer Parkinson's Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac English National Ballet wedi cael ei symud o'r Tŷ Dawns (Bae Caerdydd) a Sefydliad Glowyr Coed-duon (Caerffili) i ddosbarth ar-lein Zoom newydd i helpu i gefnogi'r rheiny sydd fwyaf bregus ac yn parhau i warchod eu hunain.

Mae CDCCymru wedi bod yn cynnal y dosbarthiadau dawns o safon uchel i bobl sy'n byw â Parkinson's a'u teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr ers 2015 yn y Tŷ Dawns a 2017 yn Sefydliad Glowyr Coed-duon, pob un yn rhan o raglen ledled y DU ag English National Ballet.

Profwyd bod Dawnsio ar gyfer Parkinson's yn cefnogi pobl â Parkinson's i fagu hyder a chryfder, gan leddfu dros dro symptomau ym mywyd bob dydd rhai o'r cyfranogwyr. Mae'r dosbarthiadau'n fynegiadol, yn greadigol ac yn hyrwyddo teimladau o ryddid rhag cyfyngiadau corfforol a chymdeithasol Parkinson's.

Ers dechrau'r cyfnod clo mae CDCCymru ac English National Ballet wedi bod yn treialu rhaglen ar-lein i gefnogi mynychwyr presennol i gymryd rhan o gysur eu cartrefi eu hunain, y mae llawer ohonynt yn fregus ac wedi bod gwarchod ers mis Mawrth.  Mae wedi caniatáu i fynychwyr presennol gadw mewn cysylltiad â phobl drwy'r cyfnod clo yn gymdeithasol.

Dywedodd Cyfranogwr Dawnsio ar gyfer Parkinson's, "Mae'r cyfnod clo wedi bod yn anodd iawn, nid oeddwn yn gallu gweld pobl na fy nheulu rhagor.  Roeddwn yn teimlo'n unig ac roedd fy lleferydd yn gwaethygu.  Helpodd y sesiynau Zoom i mi ailgysylltu ac roedd yn wych gweld yr athrawon a holl gyfranogwyr ein grŵp. Roedd y sesiynau yn codi calon ac roeddwn bob amser yn edrych ymlaen atynt."

 
Yn ogystal â sefydlu'r sesiynau ar-lein, mae CDCCymru wedi uno â Chymunedau Digidol Cymru sy'n gweithio gyda phobl wedi'u cau allan yn ddigidol. Gan eu helpu i ddarparu gweithgareddau cynhwysiant digidol fel eu bod yn gallu ei wneud yn dda a chael mwy o effaith. Gwnaethant helpu CDCCymru i ddarparu hyfforddiant a chymorth am ddim i'r rheiny nad oedd erioed wedi defnyddio Zoom o'r blaen.

Dywedodd Cynhyrchydd Dysgu a Chyfranogi CDCCymru, Guy O'Donnell, "Yr adborth a gawsom gan ein cyfranogwyr Dawnsio ar gyfer Parkinson's ffyddlon, oedd eu bod eisiau teimlo mewn cysylltiad o hyd a pharhau i deimlo buddion y rhaglen ar eu hiechyd. Roeddent yn awyddus ac eisiau bod yn fentrus a dysgu am dechnoleg, ac yn ffodus gyda chefnogaeth barhaus gan Gymunedau Digidol Cymru rydym wedi gallu gwneud hyn." 

Yn dilyn y cynllun peilot dros y cyfnod clo, bydd Dawnsio ar gyfer Parkinson's bellach ar gael ar-lein i aelodau newydd ymuno â'r rhaglen o ddydd Iau 17 Medi, 1.15pm-2.45pm. Cynhelir y rhaglen dros 12 wythnos a gall cyfranogwyr ymuno unrhyw bryd. Mae'r dosbarth cyntaf ar 17 Medi am ddim ac mae'r dosbarth cyntaf am ddim i fynychwyr newydd, ar ôl hynny codir tâl o £3.50 yr wythnos am ddosbarthiadau. Bob tymor mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar un cynhyrchiad gan English National Ballet neu Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac yn archwilio'r themâu a syniadau y tu ôl i symudiadau'r darn dawns hwnnw. Y tymor hwn, bydd Dawnsio ar gyfer Parkinson's yn canolbwyntio ar gynhyrchiad CDCCymru o Clapping?! Ed Myhill a gafodd ei addasu i'w arddangos ar-lein yn ystod y cyfnod clo.

Yn ogystal ag annog aelodau newydd i ymuno â Dawnsio ar gyfer Parkinson's, mae CDCCymru ac English National Ballet yn parhau i chwilio am wirfoddolwyr i helpu i gefnogi cyfranogwyr y rhaglen. Os hoffech ragor o wybodaeth a chofrestru i'r rhaglen fel cyfranogwr neu wirfoddolwr, cysylltwch â – Guy O’Donnell, Cynhyrchydd Dysgu a Chyfranogi, CDCCymru e-bostiwch guy@ndcwales.co.uk neu ffoniwch 07305 534 981.

Cefnogir Dawnsio ar gyfer Parkinson's gan Gyngor Caerffili, Hodge Foundation, The Moondance Foundation a The Goldsmiths Charity Company.