dancer in a purple satin pyjama like costume and a white glitter swim cap jumps across a purple graphic background

Cefnogi coreograffwyr y genhedlaeth nesaf yng Nghymru

Detholiad o weithiau dawns gan goreograffwyr llawn addewid

Byrion – Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
19-22 Mawrth, Y Tŷ Dawns, Caerdydd.

Archebwch Tocannau

 

 

Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno tri o weithiau dawns byr a bachog gan dri choreograffydd addawol fel rhan o ‘Shorts | Byrion’ yng nghartref y cwmni yn y Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, rhwng 19 a 22 Mawrth. Bydd y lleisiau newydd a phwysig hyn yn y byd dawns yn llenwi’r llwyfan gyda drama, comedi dywyll a dylunio clyfar – gyda cherddoriaeth newydd a sawl clasur o gân yn gefndir i’r cwbl.

Bydd cynulleidfaoedd yn cael cyfle i fwynhau tri pherfformiad mewn cyn lleied â 90 munud. Bydd yr holl berfformiadau’n wahanol i’w gilydd, felly dyma ddigwyddiad delfrydol i’w rannu gyda chyfeillion neu gyda phobl nad ydynt erioed wedi cael profiad o wylio dawnsio byw o’r blaen.

Mae’r digwyddiad yn cynnwys tri darn gwahanol gan Faye Tan, dawnsiwr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru; Osian Meilir, artist symud, crëwr dawns a pherfformiwr o Gymru; a John-William Watson, dawnsiwr, cyfarwyddwr a choreograffydd o Leeds.

“Mae Faye Tan, John-William Watson ac Osian Meilir yn llunio’u gwaith o’u gwahanol safbwyntiau eu hunain. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydw i wedi gwylio pob un ohonynt yn torri cwys ar gyfer eu gwaith yn y Deyrnas Unedig. Bydd Byrion yn rhannu tri darn o waith sy’n ymgorffori eu llofnod artistig unigryw.”

Matthew Robinson, Cyfarwyddwr Artistig diweddar Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, a luniodd y rhaglen ar gyfer Shorts | Byrion

Yn ‘Infinity Duet’, mae dau ddawnsiwr yn delio â phwysau ac amser mewn deuawd deimladwy, dwymgalon sy’n mynd ati i blethu lluniau a cherfluniau gan yr artist lleol Cecile Johnson Soliz, dawns gan y coreograffydd Faye Tan a sain gan y cyfansoddwr Richard McReynolds o Gaerdydd, mewn cydweithrediad unigryw. Rhoddir lle blaenllaw i wisgoedd gyda lluniau Cecile wedi’u hargraffu arnynt a hefyd i gerflun papur mawr sy’n hongian. Mae’r cerflun yn siglo ac yn symud gyda’r dawnswyr wrth iddynt wyro, gwau a symud gydag ef.

“Mae’r gynulleidfa’n gweld rhywbeth nad yw wedi deillio o syniad neu weledigaeth un person – yn hytrach, gwelir gweledigaeth ar y cyd o rywbeth y mae pob un ohonom yn danbaid drosto.”

Y Crëwr, Faye Tan, wrth sôn am Infinity Duet.

“Mae’r holl elfennau unigol mor gyfoethog ynddynt eu hunain. Cyffrous iawn yw gweld sut y daw pob un o’r elfennau hynny ynghyd mewn ennyd o berfformio byw.”

Richard McReynolds, Dylunydd Sain

Yn ‘UN3D’ gan Osian Meilir, y crëwr dawns o Gymru, mae tri dawnsiwr yn symud yn berffaith gyda’i gilydd i gyfeiliant cerddoriaeth The Police a Bjork. Caiff y coreograffi – y dywedir ei fod yn archwilio’r cydamserol, y gwirion a’r aruchel – ei ysbrydoli gan nofio cydamserol, dawnsio llinell a The Supremes. Crëwyd ‘UN3D’ am y tro cyntaf yn 2023, ac mae’n archwilio’r gwahaniaeth rhwng symud mewn ffordd gydamserol ar y naill law, a bod yn feddyliol gydamserol ar y llaw arall, gan hyrwyddo cysylltiad dynol uwchlaw amseru perffaith. Yn sgil y symud llyfn, y trac sain ysgogol a’r gwisgoedd godidog, bydd y gynulleidfa’n siŵr o gael gwledd o berfformiad.

“Rydw i wrth fy modd ac yn llawn cyffro o gael ailwampio a chyflwyno UN3D unwaith eto. Cefais gymaint o hwyl yn creu’r gwaith gwreiddiol ar gyfer prosiect 4x10 y cwmni, a gobeithio y bydd y gynulleidfa’n cael cymaint o hwyl wrth ei wylio eto y tro hwn.”

Osian Meilir, coreograffydd UN3D

Y trydydd darn ‘Byr’, a’r olaf, yw comedi dywyll gan John-William Watson, sef ‘Hang in There, Baby’. Mae’r gwaith hynod ddoniol hwn wedi’i leoli mewn swyddfa yn ystod parti calan. Buan iawn yr aiff pethau’n fwyfwy swreal wrth i undonedd diarbed y swyddfa droi’n hunllef yn hil ‘pac-man’. Gyda choreograffi hynod fanwl, set wedi’i goleuo’n llwm a sgript swreal, mae ymdeimlad sinematig yn perthyn i ‘Hang in There, Baby’ – ac yn ddi-os, bydd yn siŵr o danio sawl trafodaeth. Gan gyfuno sgript ffuglen wyddonol, dylunio dihafal a sgôr wreiddiol gan Adam Vincent Clarke, mae’r ddawns ddoniol a rhyfeddol hon yn eich annog i ddal ati i wylio, doed a ddelo.

“Pan berfformiwyd y sioe hon am y tro cyntaf yn Sadler’s Wells yn 2022, bu’n drobwynt i mi. Deallais sut fath o straeon rydw i eisiau eu hadrodd, sut rydw i’n dymuno eu hadrodd a’r hyn rydw i eisiau ei gyfleu i’r bobl sy’n gwylio. Oherwydd hyn, mae’r gwaith hwn yn agos iawn at fy nghalon – rydw i ar dân eisiau ei rannu gyda chriw newydd sbon danlli o ddawnswyr a chynulleidfaoedd newydd!”

Crëwr Hang in There, Baby, John-William Watson

Bydd Shorts | Byrion gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn y Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd rhwng dydd Mercher 19 a dydd Sadwrn 22 Mawrth.

 

Dydd Gwener Iaith Arwyddion Prydain 21 Mawrth, 7.30pm

Dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain: Cathryn McShane

Tocynnau £14, Consesiynau £12, tocynnau hanner pris i bobl dan 26 oed. https://ndcwales.co.uk/cy/shorts-byrion 

 

Addasrwydd oedran 12+

 

Galeri
dancers in party hats and shirts and ties stand around an office looking scared, one raises a keyboard above another who is curled into a ball, the one with the keyboard is ready to strike them
dancer in purple satin suit and glitter swim cap under dramatic lighting holds arms infront of their chest, hands balled into fists as though ready for action
two dancers in white costumes printed with charcoal sketched lines, they bend backwards and forwards under a paper sculpture that looks like a gaint swinging bar