Pont Ddiwylliannol: partneriaeth gydweithrediadol CDCCymru ag Of Curious Nature
Mae In Each Other’s Company – partneriaeth gydweithrediadol rhwng CDCCymru ac Of Curious Nature yn yr Almaen – ymhlith 15 prosiect sydd wedi cael cyllid gan Pont Ddiwylliannol, sy’n dyfarnu cyllid i sefydliadau yn y DU a’r Almaen i ddatblygu prosiectau diwylliannol sy’n mynd i'r afael â materion yn wynebu cymunedau yn y ddwy wlad.
Mae Pont Ddiwylliannol yn bartneriaeth buddsoddi unigryw rhwng holl gynghorau celfyddydau’r DU a sefydliadau diwylliannol blaenllaw yr Almaen. Ei nod yw cefnogi'r ddwy ochr i gyfnewid a sgwrsio mewn perthynas â’r maes celfyddydau a diwylliant cyfranogol, gan weithredu fel llwyfan ar gyfer cyfnewid artistig a mabwysiadu arfer o gydweithredu diwylliannol.
Bydd rhaglen 2023 – 2024 yn galluogi datblygiad un ar ddeg partneriaeth newydd a phedair partneriaeth sydd eisoes yn bodoli rhwng sefydliadau ar draws pedair cenedl y DU a’r Almaen.
Gyda buddsoddiad gan saith partner arwyddocaol: Cyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Fonds Soziokultur, Goethe-Institut London, Arts Council England, Arts Council Northern Ireland, British Council, a Creative Scotland, Pont Ddiwylliannol yw'r prosiect cyntaf lle mae’r holl sefydliadau yn cydweithio ar un gronfa.
Daw partneriaethau rhaglen 2023 – 2024 yn sgil galwad agored a gafodd dros 95 o geisiadau, sy’n dyst i ymrwymiad y sector diwylliannol rhyngwladol i ddatblygu gwaith sy’n galluogi newid cymdeithasol. Cafodd ceisiadau eu hasesu a'u hadolygu gan reithgor annibynnol o arbenigwyr ledled y DU a'r Almaen.
Dyma ragor o wybodaeth ynghylch In Each Other’s Company
Dyma ragor o wybodaeth ynghylch ein partneriaid, Of Curious Nature
Dyma ragor o wybodaeth ynghylch Pont Ddiwylliannol
#PontDdiwylliannol