Partneriaeth i archwilio sut gall symud fod o fudd i staff sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal
Mae’n bleser gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Cartrefi Cymru gyhoeddi partneriaeth newydd a fydd yn dechrau gyda chyflwyno prosiect peilot arbennig o’r enw ‘Symud y Tu Hwnt i Gydymffurfiaeth’. Mae’r prosiect arloesol yn gam tuag at ddyhead mwy ac mae’n gyfle unigryw i staff Cartrefi Cymru archwilio ffyrdd newydd o gefnogi eu lles a hefyd ysbrydoli model a allai fod o fudd i staff sy’n gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau gofal yn y dyfodol.
Mae Cartrefi Cymru yn fenter gydweithredol aml-randdeiliaid sy'n cefnogi pobl ag anawsterau dysgu yng Nghymru i fyw bywydau da yn y gymuned.
Esboniodd Susan Coffey, Cyfarwyddwr Cyllid Cartrefi Cymru, “Mae gofal cymdeithasol dan straen aruthrol, sydd wedi’i waethygu gan Covid 19, ond mae’r staff wedi parhau i ddangos tosturi, dygnwch a chreadigedd drwy’r amser. Dyna pam rydym yn teimlo mor gyffrous cael bod yn rhan o’r prosiect hwn sy’n anelu at ddathlu ymrwymiad staff, gyda ffocws ar eu lles a chael hwyl.”
Bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno gan yr artistiaid dawns Yvette Halfhide, Marla King a Jake Nwogu yn ystod dau weithdy yn Aberhonddu. Bydd canlyniadau'r dysgu ar y cyd yn cael eu cynnwys mewn gwerthusiad ac astudiaeth achos ddilynol dan arweiniad NAPA (Cymdeithas Darparwyr Gweithgareddau Cenedlaethol).
Dywedodd Hilary Woodhead, Cyfarwyddwr Gweithredol NAPA: “Mae hwn yn brosiect pwysig. Mae NAPA wedi ymrwymo i hyrwyddo manteision y celfyddydau a chreadigrwydd wrth ddarparu gofal, ar ôl gweld y manteision i bawb dan sylw. Rydym yn teimlo’n gyffrous cael cgefnogi agwedd mor arloesol at les staff ac edrychwn ymlaen at rannu’r dysgu gyda’r sector ehangach.”
Bydd y prosiect peilot hwn yn cyfuno arbenigedd yr holl bartneriaid, gyda’r ffocws ar gefnogi staff Cartrefi Cymru, a bydd yn cyfuno gwrando, rhannu a symud gan arwain at fewnwelediad a dysgu.
“Mae CDCCymru a Cartrefi Cymru yn rhannu gwerthoedd cyffredin, yn enwedig y buddion y gallant ddod i gymunedau yng Nghymru gyda’r nod o wella bywydau pobl,” esboniodd Paul Kaynes, Prif Weithredwr CDCCymru.
“Dwy o flaenoriaethau CDCCymru yw cyfiawnder cymdeithasol a chefnogi arloesedd mewn dawns, sy’n sail i’r bartneriaeth hon a’r posibiliadau y gall eu creu.”
Mae’r prosiect peilot hwn wedi’i wneud yn bosibl gan gefnogaeth a dderbyniwyd gan y gronfa Loteri Genedlaethol - Celfyddydau, Iechyd a Lles sy’n cael ei rheoli gan Cyngor Celfyddydau Cymru. Nod y rhaglen hon yw cefnogi partneriaethau o bob rhan o’r celfyddydau, iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector i ddarparu prosiectau creadigol o ansawdd uchel sy’n darparu buddion iechyd a lles i bobl Cymru.