two dancers bend backwards under a large swinging paper sculpture, all mid-movement, they wear white loose costumes printed with black line sketches
Faye Tan a Cecile Johnson Soliz

Infinity Duet

Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad
10 munud

Mae dau berson yn mynd i'r afael â phwysau ac amser yn y ddeuawd deimladwy a chynnes hon sy'n plethu ynghyd dyluniad, cerfluniad, dawns a sain mewn cydweithrediad unigryw.

 

Yn teithio fel rhan o
CDCCymru yn Cyflwyno

Shorts | Byrion

Mae tri choreograffydd addawol yn llenwi'r llwyfan â drama, comedi dywyll a dylunio disglair, wedi'u trefnu i gyfuniad o gerddoriaeth newydd a chlasuron.

Cynhyrchiad

Ni all y cerflun osgoi ildio i ddisgyrchiant, na’u cyrff chwaith.

Mae dau berson yn mynd i'r afael â phwysau ac amser yn y ddeuawd deimladwy a chynnes hon sy'n plethu ynghyd dyluniad, cerfluniad, dawns a sain mewn cydweithrediad unigryw.

Creodd y coreograffydd Faye Tan a'r artist Cecile Johnson-Soliz y gwaith hwn ynghyd â'r dawnswyr. Gyda cherddoriaeth gan Richard McReynolds, gwisgoedd wedi'u printio â darluniau Cecile a cherflun mawr siglog sy'n hawlio'r sylw, mae'r gwaith hwn yn eich swyno.

Tîm Creadigol

Hyd: 10 minutes 
Dawnswyr: 2
Premiere: 30 February 2025, Dance House, Cardiff

Yr Artist: Cecile Johnson Soliz

Cyfansoddydd: Richard Mcreynolds

Dylunio Gwisgoedd: Cecile Johnson Soliz
Cynllynydd Goleuo: Will Lewis
Gwneuthurydd Gwisgoedd: Elizabeth Catherine Chiu

Dawnswyr A Chyd-Goreograffwyr: Charlotte Aspin, Alys Davies, Olivia Foskett, Sarah ‘Riz’ Golden, Jill Goh, Edward Myhill
Cyfarwyddydd Ymarfer: Victoria Roberts

Gyda Diolch i: Luca Chiodini, Dan Clark, Elena Grace, Sam Gilovitz, Niamh Keeling, Mario Manara, Matthew William Robinson, Ds Smith, Will Barrett Soliz, Rachel Verner

Coreograffwr

Faye Tan

Faye tan sits outside in warm sunlight on a teal bench made of palettes, she has a green pattered blouse on and leans casually on her knee, she has short black hair

Mae Faye yn ddawnswraig a choreograffydd o Singapôr ac ar hyn o bryd yn ddawnswraig llawn amser gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Meithrinwyd ei hymarfer coreograffig gan ei phrofiadau helaeth o weithio gyda choreograffwyr dawns gyfoes o bob rhan o’r byd a’i defnydd o wahanol arddulliau o ddawns, diwylliannau, dulliau a thechnegau. Mae ei gwaith yn aml yn cynnwys cymhlethdod yr emosiwn dynol sydd weithiau’n llethol, ac yn aml yn awdlau i brofiadau dynol o’r dyrchafedig.

Yn aml yn cydweithio gyda cherddorion ac artistiaid gweledol, mae hi wedi creu gwaith ar gyfer amrywiaeth o osodiadau a chyd-destunau gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, VERVE (DU), Frontier Danceland (Singapôr), y Ganolfan Hyfforddiant Uwch (DU) ac Ysgol Gelfyddydau Singapôr.

faye-tan.com/
@fayefayefaye.tan 

 

Cecile smiles infront of her own sculpture, she has a grey bob, glasses and red lipstick with a wide smile of perfect teeth

Mae Cecile Johnson Soliz yn Americanes ail genhedlaeth o dreftadaeth Bolifaidd a fagwyd yng Nghaliffornia, Mecsico, Bolifia, Brasil, Ghana, a’r Eidal cyn cyrraedd y D.U. i astudio Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celfyddyd ac Eurych Caerdydd. Yn dilyn 20 mlynedd yn Llundain, bu i Gymrodoriaeth Henry Moore mewn Cerfluniaeth ddod â hi i Gaerdydd yn 1995 ble mae hi’n byw a gweithio. Mae Cecile wedi arddangos dros gyfnod o 35 mlynedd yn y D.U. a thramor mewn arddangosfeydd unigol a grŵp, gan ennill y Wobr Aur mewn Celfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2017. Ar hyn o bryd mae hi’n cydweithio gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Ar gyfer Bio llawn a C.V. ewch i:

cecilejohnsonsoliz.net
@cecilejohnsonsoliz

Richard leans over a laptop and dj decks, the back wall behind him lit with projections from his work

Mae Richard McReynolds yn gyfansoddwr o Ogledd Iwerddon, yn artist aml-gyfrwng a chynhyrchydd creadigol wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Mae’n gweithio yn y croestoriad rhwng cyfryngau, ymchwilio i gysylltiadau newydd rhwng perfformiadau, sain ac elfennau gweledol.  Mae ei waith yn cwmpasu gwaith sain, celf-berfformiad, delweddau cynhyrchiol, hyper-offerynnau a gosodiadau.

 richardmcreynolds.com
@mcreynoldsrich

 

Galeri
dancer with black hair leans deeply forward, one knee bent the other straight, and arm out behind her, she wears a costume with printed sketches from artist Cecile Johnson Soliz
two dancers kneel on the floor under a swinging sculpture made of paper, its a long bar wrapped around with pale newsprint. The dancers elbows reach to the sky, back muscles flexing, costume with printed sketches from artist Cecile Johnson Soliz
two dancers wearing costume with printed sketches from artist Cecile Johnson Soliz bend forward on one knee, facing the camea, one hand on their heart, the other stretched towards the sky behind them
a dancer wears a costume with printed sketches from artist Cecile Johnson Soliz she balances on one knee and one elbow on a wooden floor, seemingly suspended in the moment