Artistiaid Cyswllt June Campbell-Davies
Cyfweliad
A oes modd ichi sôn rhywfaint amdanoch eich hun, eich siwrnai yn y byd dawns yng Nghymru a thu hwnt?
Ganwyd a magwyd June Campbell-Davies yng ngogledd Llundain. Aeth i Ysgol Gynradd Brookfield yn Highgate. Cafodd ei phrofiad cyntaf o ddawns mewn Clwb Ballet ar ôl ysgol dan arweiniad Margaux Charrington, athrawes ballet o Gernyw, pan oedd yn naw mlwydd oed. Roedd hi’n gwirioni ar y ddisgyblaeth, ar berfformio ac ar wisgo ar gyfer yr achlysur. Roedd Mr Jones, pennaeth yr Ysgol Plant Iau, yn Gymro ac felly roedd gennym gôr ysgol. Hefyd, câi’r Celfyddydau Perfformio eu hannog. Bob Pasg, byddai’r ysgol yn cynnal cystadleuaeth cennin Pedr a byddai’r holl ddisgyblion yn cael bylbiau i’w tyfu. Yna, ar ddiwrnod arbennig, byddem yn mynd â nhw i’r ysgol, byddai’r cennin Pedr yn cael eu beirniadu a byddai gwobrau’n cael eu dosbarthu. Dim ond ar ôl imi symud i Gaerdydd yn nechrau’r 80au y sylweddolais yr arwyddocâd.
Yn Ysgol Uwchradd Parliament Hill, roedd gennyf athrawon Addysg Gorfforol gwych, sef Mrs Brown a Maggie Semple a ehangodd fy ngorwelion ac a barodd imi brofi gwahanol fathau o fynegiant rhydd. Cafodd June ddosbarthiadau ychwanegol yn ymwneud â thechneg Graham yn The Place, a oedd yn llawer mwy strwythuredig. Rydw i’n cofio teimlo braidd yn od ynglŷn â’r ffaith fod yr holl wers yn seiliedig ar ymarferion, heb ryw lawer o ryddid i fynegi.
Yn nes adref, mynychais ddosbarth dawns arall yn ysgol Achland Burley, a oedd yn gyfuniad o ddawns fodern a Jazz. Câi’r sesiynau eu rhedeg gan Theresa Noble a Celia Greenwood a oedd yn ymarferwyr hyfforddedig mewn dawns a drama. Gyda’i gilydd, aethant ati i ffurfio’r Weekend Arts College, gan drefnu dosbarthiadau i bobl ifanc a oedd yn wynebu rhwystrau yn y Celfyddydau. Yn y pen draw, fe wnaethant gydweithio gyda’r arloeswr Ed Berman a arferai weithio yn y maes mentrau cymdeithasol gan greu prosiectau adfywio cymunedol mawr a lwyddodd i wella bywydau pobl ifanc ac aelodau’r gymuned.
Arweiniodd hyn at wahoddiad i gymryd rhan mewn cynllun dawns peilot yn yr ardal ar gyfer plant difreintiedig, sef y Weekend Arts College a arloeswyd gan Ed Bergman, yr anthropolegydd o America, lle gallai pobl ifanc gael hyfforddiant yn y celfyddydau perfformio a mynychu gweithdai dan arweiniad gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.
O’r fan honno, bu modd imi ymgeisio i’r Laban Centre for Movement and Dance, ac fe wnaeth hynny drawsnewid fy mywyd yn llwyr. Ymddengys fel pe bai fy siwrnai trwy ddawns wedi datblygu o’r fan honno ymlaen. Yn ystod fy mlynyddoedd olaf yn Laban, cafodd fy mlwyddyn DT3 ei dewis i ddawnsio ar gyfer y Pab, Ioan Pawl II, ym Mharc Ninian, Caerdydd. Bychan a wyddwn ar y pryd y buaswn yn symud i Gaerdydd y flwyddyn ganlynol.
Yn ystod yr haf y flwyddyn honno, câi’r Ŵyl Ddawns Ieuenctid Genedlaethol ei chynnal yn Abertawe a byddai Moving Being, sef cwmni theatr cyfryngau cymysg, yn gweithio ar brosiect yn ymwneud â ‘Prospect of the Sea’ gan Dylan Thomas. Gwahoddwyd grwpiau ieuenctid a oedd yn rhan o’r Ŵyl Ddawns Ieuenctid i gymryd rhan yn y sioe. Yn anffodus, ni allai ein grŵp ieuenctid ni, sef ‘Fusion’, gymryd rhan yn y cynhyrchiad yn y pen draw gan ei fod yn cyd-daro â pherfformiad arall.
Moving Being oedd un o’r cwmnïau proffesiynol cyntaf imi weithio iddo ers graddio. Fe’i lleolwyd yn y Dociau ar Stryd West Bute yn Eglwys Sant Steffan, sef adeilad a gafodd ei ailwampio a’i droi’n theatr. Byddai prosiect yr Ysgol Haf yn cael ei seilio ar ‘Prospect of the Sea’ gan Dylan Thomas. Yn anffodus, ni fu modd i’n grŵp ieuenctid ni gymryd rhan yn y cynhyrchiad ei hun, ond bu modd inni gymryd rhan yn nosbarthiadau’r ysgol haf, gan dreulio gweddill y diwrnod olaf yn ymarfer ar Draeth Gŵyr cyn dychwelyd i Lundain.
Pan symudais i Gymru ym 1983, Moving Being oedd y cwmni cyntaf y gweithiais iddo mewn cynhyrchiad o’r enw “City Trilogy”. Roedd fy mhartner eisoes yn gweithio i’r cwmni fel dawnsiwr/actor, ac ar y pryd ychydig iawn o artistiaid proffesiynol a oedd i’w cael, a megis dechrau blodeuo oedd y gymuned ddawns, felly yn y diwedd penderfynais aros, a thros y blynyddoedd gweithiais gyda phrosiectau lleol eraill fel perfformiwr llawrydd ac athrawes, er nad oeddwn wedi cael unrhyw hyfforddiant addysgu ffurfiol. Gweithiais ar nifer o brosiectau dawns gyda Dawns Cymru, sef sefydliad ambarél dan arweiniad Caroline Lamb, y Cyfarwyddwr Artistig, a ddatblygodd yn Dawns Annibynnol Cymru. Mae Caroline bellach yn rhedeg Strikking Attitude, a fu’n hollbwysig o ran cadw nifer fawr o ddawnswyr llawrydd mewn gwaith yn ystod cyfnodau tawel. Llwyddodd nifer o berfformwyr i hogi’u sgiliau fel coreograffwyr, athrawon, actorion a chyfarwyddwyr cwmnïau. Roeddwn yn un o sefydlwyr Cwmni Dawns Gwylan ochr yn ochr â Dylan Davies a Lucy Fawcette ein Cyfarwyddwr Artistig. Estynnodd Lucy wahoddiad i Germit Hukkum, ac yna Nigel Charnock, ymuno â’r cwmni, yn ogystal â’r ddawnswraig leol Janet Fieldsend.
Gweithiodd y rhan fwyaf ohonom gyda Moving Being eto ar nifer o brosiectau mawr yn ymwneud â’r gymuned ar sawl lefel. Roedd y Mabinogi yn brosiect enfawr. Fe’i lleolwyd yng Nghastell Caerdydd a Chastell Caernarfon. Hefyd, cymerais ran mewn prosiectau diweddarach gyda Moving Being.
Pan ddatblygwyd Diversions, cefais wahoddiad i goreograffu darn ar gyfer y cwmni, sef ‘Junctions’, a aeth ar daith o amgylch ysgolion Cymru. Yna, bu modd imi gael cerdyn ‘Equity’ (Undeb yr Actorion), a llwyddodd hyn i agor byd newydd sbon imi lle gallwn weithio a pherfformio yn y Theatr ac ar y Teledu, a chael tâl priodol am wneud hynny.
Beth yw uchafbwynt neu uchafbwyntiau eich gyrfa hyd yn hyn?
Rydw i wastad wedi gweithio fel dawnsiwr llawrydd, athrawes, a choreograffydd ar adegau. Wrth edrych yn ôl ar yr hyn rydw i wedi’i gyflawni, rhaid imi ddweud bod llawer o uchafbwyntiau’n dod i’m meddwl – un drws yn cau, drws arall yn agor.
Cynhyrchiad Moving Beings o ‘In these Great Times’ a Tiger Tiger.
Cafodd y theatr a’r awditoriwm eu trawsnewid yn Gaffi mawr o Fienna gyda’r gynulleidfa yn agos iawn at y perfformwyr; ac ar gyfer Tiger Tiger, cefais weithio gyda chymuned Butetown a chorau Moving Beings. Siafft cloddfa fawr oedd y set, a oedd yn trawsnewid i fod yn ardaloedd dociau, yn strydoedd ac yn gartrefi. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Chris Benstead.
Cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru o Tornrak oedd y tro cyntaf imi weithio fel perfformiwr solo gyda chwmni opera. Roeddwn yn chwarae rhan blaidd ac yn gwisgo ffwr go iawn, a hefyd roeddwn yn gyfrifol am weithio pyped Tylluan.
Bu cynhyrchiad Theatr Gerdd Genedlaethol Cymru o ‘The Soldier’s Tale’ yn her a hanner – actio a dawnsio, rhannu rolau’r Milwr, y Dywysoges a’r Diafol gyda dau o berfformwyr eraill, sef Karen Jones a Lee Warburton. Miranda Knight a greodd y coreograffi.
Cynhyrchiad Double Edge Theatre o ‘Raggamuffin’, Llundain a thaith o gwmpas y DU.
Dyma fy mhrofiad cynaf fel actores yn chwarae pedwar cymeriad mewn cynhyrchiad tair awr yn Llundain ac ar daith wedyn o amgylch Lloegr. [Ar y pryd, roeddwn i dri mis yn feichiog.] (Darn gwleidyddol yn sôn am derfysgoedd Tottenham yn ystod blynyddoedd Thatcher. Fi oedd y Barnwr, yr Hen Fenyw, Merch y Neuadd Ddawns a’r Gaethferch.)
Cynhyrchiad Philip Mckenzie o ‘We Want God Now’, a fu’n teithio o gwmpas yr Iseldiroedd. Roedd y cynhyrchiad hwn wedi’i seilio ar gyfnod dirwasgiad 1930 a chafodd ei gyfosod â’r sîn gerdd ‘techno rave’ a oedd yn boblogaidd yn nechrau’r 90au. Roedd y sioe hon yn gorfforol flinedig ac yn adfywiol ar yr un pryd. Roeddech yn gwirioneddol deimlo eich bod am farw, a chithau’n eich gwthio eich hun yn gorfforol tuag at y dibyn.
Prosiect cerdd cydweithredol gyda Sain ac Afro Celt Sound System, gan deithio i Womad Sbaen, Cesearus a Reading. Dechreuodd y prosiect cerdd hwn mewn stiwdio gerdd yng Nghaernarfon, gogledd Cymru gyda Rhys Mwyn, ac arweiniodd at weithio gyda’r cerddor Simon Emmerson, y dylunydd Jamie Clark ar gyfer y Sex Pistols yng Nghaerfaddon yn Stiwdio Peter Gabriel – arweiniodd y prosiect peilot at fy nghynnwys fel perfformiwr yn hytrach na chanwr gyda pherfformwyr a cherddorion eraill a bu modd imi fynd ar daith gyda fy ngŵr Dylan Davies a Ffion a oedd yn 5 oed ar y pryd. Roedd hi’n gwirioni ar yr holl grwydro, felly roedd hynny’n gwneud fy mywyd yn haws.
Omidaze Shakespeare Theatre
Richard III, gyda chast yn cynnwys dim ond menywod. Roeddwn yn gweithio fel Cyfarwyddwr Symud. Roedd y cynhyrchiad hwn yn hanner Theatr / hanner Gosodwaith. Cyfle i ddilyn siwrnai Richard III ac archwilio symudiadau a choreograffi.
Cynhyrchiad National Theatre Wales o 'Lifted by Beauty: Adventures in Dreaming'
Darn safle-benodol a grëwyd ar gyfer yr awyr agored ac a berfformiwyd yn y Rhyl, gogledd Cymru.
Striking Attitudes – Caroline Lamb, Cyfarwyddwr Artistig, cwmni o uwch-ddawnswyr. Cefais flas ar weithio gyda Caroline Lamb dros y blynyddoedd, oherwydd roedd modd gweld dylanwad Opera, Celfyddyd Aruchel a Pina Baush ar ei gwaith dros y blynyddoedd. Rydw i wedi dysgu cymaint trwy weithio gyda hi ar nifer o’i chynyrchiadau.
‘Where Do We Go From Here’ gan Jo Fong – Dyma brosiect anarferol ar y cyd â Chanolfan Mileniwm Cymru. Fe wnaethom feddiannu’r prif lwyfan a buom yn gweithio yn y gwagle enfawr gan ei lenwi â’n Gwirioneddau. Profiad bythgofiadwy – bod ar y llwyfan gyda 50 o berfformwyr, cerddoriaeth, sgyrsiau byrfyfyr a strwythur i’n harwain er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio’n ddiogel gyda’n gilydd am 8 awr a dau ddiwrnod.
Yn olaf ond nid yn lleiaf, gweithio ar Carnival gyda Swica a BACA, dau sefydliad gwahanol iawn. Mae Carnival yn ymgorffori popeth o fewn y Celfyddydau. Dyma’r lle i fynd er mwyn cael gweithio gyda Phobl Greadigol, Dylunwyr, Cerddorion, Dawnswyr a Chymunedau, i greu sioe deithiol ysblennydd. Dyma’r lle i fynd i archwilio pethau ar gynfas symudol enfawr, syniadau, breuddwydion, dysgu sgiliau trosglwyddadwy. Gall fod yn ddi-drefn, yn ffrwydrol, ond dyma’r glud sy’n cadw cymunedau o gefndiroedd cymdeithasol gwahanol gyda’i gilydd, gan roi diben i bobl, cyfle iddynt greu gyda’i gilydd. Rhaid ymrwymo’n llwyr iddo, ni allwch gymryd rhan rhwng bodd ac anfodd. Mae fel paratoi ar gyfer marathon. Rhyddid ichi eich mynegi eich hun – diosg yr hualau – llechen lân.
Roedd yr holl Gynyrchiadau hyn yn Gynyrchiadau trawsnewidiol ar raddfa fawr a oedd yn cynnwys gweithwyr proffesiynol, cymunedau a cherddoriaeth fyw.
Rydych yn un o gymdeithion artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Syndod braidd oedd cael cynnig lleoliad fel Cydymaith Artistig am ddwy flynedd, yn bennaf gan fy mod wedi bod yng Nghaerdydd ers sawl blwyddyn yn gweithio fel perfformiwr llawrydd, ac ymddengys fod y rhan fwyaf o’r ceisiadau’n cael eu hanelu at artistiaid ifanc sy’n dod i’r amlwg, felly nid oeddwn yn credu y buaswn yn cael fy ystyried.
Rydw i wastad wedi mwynhau coreograffu; ond gan fy mod yn rhiant, roedd yn rhaid imi ddod o hyd i waith a oedd yn cyd-fynd â’r tymor ysgol a gwyliau’r haf. Fel dawnsiwr a oedd yn dal i ddymuno perfformio, euthum ati i greu perfformiadau solo y gellid eu cyflwyno mewn digwyddiadau bach neu cymerais ran mewn prosiectau bach 2-4 wythnos o hyd. Roedd fy ngwaith gyda Rubican Dance a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn golygu addysgu myfyrwyr dawns, dawns Gyfoes a Jazz gyda darn wedi’i goreograffu ar ddiwedd y tymor – ffordd o gynnal fy sgiliau coreograffu a’m cadw fy hun yn gorfforol heini.
Mae’r pandemig, y ffordd annynol y cafodd George Floyd o Unol Daleithiau America ei drin, a’r chwalu cerfluniau a welwyd yn Lloegr, wedi peri i bob un ohonom ganolbwyntio ar newid cymdeithasol. Roedd hi’n ymddangos fel pe bai yna wir angen i fyfyrio a newid ym mhob rhan o’n bywydau.
Felly, gyda hyn i gyd yn digwydd ac wrth symud ymlaen ar ôl i’r cyfyngiadau Covid ddod i ben, penderfynais y buaswn yn ymgeisio. Yr unig beth rydw i eisiau ei wneud mewn gwirionedd yw coreograffu. Mae llenwi ceisiadau yn dasg bwysfawr ac roedd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn gofyn i bobl fynegi diddordeb mewn datblygu gwaith creadigol fel coreograffydd, gyda mentoriaeth a lle i ymarfer, a byddech yn cael tâl am eich amser ni waeth pa gam oeddech chi wedi’i gyrraedd yn natblygiad y gwaith. Po fwyaf y meddyliwn am y peth, po fwyaf yr oedwn, hyd nes y dywedodd Keith Murrell o BACA y dylwn fynd amdani a chyflwyno’r cais. Fe wneuthum hynny y noson cyn y dyddiad cau.
A allwch sôn am y profiad hwnnw, ac unrhyw uchafbwyntiau arbennig?
Mae wedi bod yn brofiad anhygoel, gallu gweithio mewn stiwdio ddawns a chanddi’r holl gyfleusterau, lle tawel a glân i weithio a breuddwydio, cymorth gan fentor. Yn sydyn, rydych yn teimlo eich bod yn rhywun hollol wahanol, nid ydych yn gorfod ymlafnio i ennyn parch, ac mae bod yn Gydymaith Artistig wedi rhoi amser a chyfle imi archwilio rhai o’m syniadau gyda chymorth mentor – rhywbeth sydd wedi bod yn fuddiol tu hwnt.
Mae menter Lab 2 yn wych ochr yn ochr â dosbarthiadau dawns rheolaidd yn y bore lle gallwch gynnal eich techneg a gweithio mewn amgylchedd da i greu gwaith a theimlo eich bod yn cael eich trysori a’ch parchu – mae wedi bod yn brofiad gwych. Yn fy achos i, defnyddiais yr amser i hunanfyfyrio a datblygu fy syniadau, gan fynd ati wedyn i wylio dosbarth agored a gweld sut y mae’r creawdwyr yn dyfeisio dilyniannau, a gweld sut y mae’r dawnswyr yn ymateb i ysgogiadau gwahanol.
Hefyd, roedd hi’n wych cael siarad â dawnswyr a choreograffwyr eraill, gan weld eu prosesau a rhannu anawsterau a llwyddiannau.
Roedd rhannu eich gwaith ar ddiwedd y cwrs yn brofiad pwysig ac arteithiol. Dod i arfer siarad yn gyhoeddus ac esbonio eich proses – bu hyn yn ffordd wych o’m helpu i ganolbwyntio o’r newydd ar sut rydw i’n cyflwyno fy ngwaith a datblygu agwedd fwy proffesiynol. Sut i ofyn am gymorth, pa mor bwysig yw hunanofal a hefyd sut i’ch cyflwyno eich hun.
Gwych hefyd oedd cael siarad â dawnswyr a choreograffwyr/Artistiaid Gweledol eraill, gan weld canlyniad eu gwaith a chlywed am eu prosesau, eu hanawsterau a’u llwyddiannau. Mae Lab 2 yn fenter wych, ac mae’r ffaith bod y fenter yn cynnig tâl a chymorth mentor yn gwneud ichi deimlo bod eraill yn eich trysori ac yn eich cefnogi drwy gydol y siwrnai greadigol gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a thu hwnt.
Rydych yn creu gwaith newydd sbon fel rhan o 4X10 gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yr haf hwn.
A allwch sôn rhywfaint am yr hyn sydd gennych dan sylw? Sut ydych chi’n teimlo ynglŷn â chreu’r gwaith hwn gyda’r cwmni?
Rydw i’n creu gwaith newydd sbon gyda’r Cwmni fel rhan o 4x10. Rydw i’n llawn cyffro ac yn nerfus ar yr un pryd. Sut y bydd y dawnswyr yn ymateb i’m gwaith? A hefyd, beth fydd ymateb y gynulleidfa?
Rydw i’n gweithio gyda phedwar o ddawnswyr, sef dau aelod o’r cwmni a dau o ddawnswyr gwadd – her gyffrous fydd gweld beth wnaiff ddeillio o’r broses greadigol a beth ddaw i ran y syniad a’r thema mewn cyfnod byr. Yn y gorffennol, yn aml rydw i wedi gweithio fel artist solo, gan greu gwaith sy’n gweddu i’m corff fy hun. Nawr, gan nad wyf yn dawnsio cymaint a chan fy mod yn dod o hyd i wahanol ffyrdd o ddyfeisio gwaith, byddaf yn hollol ddibynnol ar y dawnswyr, eu deongliadau a’u cyrff, a’r ffordd y maent yn gweithio gyda’i gilydd. Rydw i’n hoffi gweithio’n weddol rydd gan ddefnyddio naratif fel canllaw yn unig, felly mae yna gyfle i fod yn hyblyg ac i newid pethau, a hefyd mae yna gyfle i gynulleidfaoedd gael eu hysgwyd gan y pethau a welant ac a ddeallant.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i artistiaid sy’n dechrau ar eu taith yng Nghymru?
Gan ddibynnu ble ydych chi yng Nghymru, cysylltwch â sefydliadau dawns wrth eich ymyl, cymerwch ran mewn dosbarth gyda nhw, cynigiwch addysgu neu chwiliwch am leoedd lle gallwch addysgu dawns fel ffordd arall o gyflwyno a chreu presenoldeb yn eich cymuned leol. Yn aml, tasg anodd yw cychwyn pethau ar ôl ichi orffen eich hyfforddiant, oni bai eich bod wedi cadw mewn cysylltiad â chydweithwyr neu sefydliadau eraill. Ewch i weld perfformiadau a cheisiwch ddal ati i greu gwaith ar eich cyfer eich hun, hyd yn oed os mai gwaith solo fydd y gwaith hwnnw. Ewch ati i greu cysylltiadau gyda Chyngor y Celfyddydau, holwch pwy yw eich swyddog dawns ac estynnwch wahoddiad i’r swyddog hwnnw fynychu’r sioeau rydych yn gysylltiedig â nhw. Os oes gennych sgiliau eraill a digon o amser rhydd, cofiwch barhau i feithrin y sgiliau hynny, hyd yn oed os bydd yn rhaid ichi weithio o gwmpas eich swydd arferol. Mae bod yn berfformiwr llawrydd yn waith anodd, ac o dro i dro gallwch deimlo’n isel ac fel pe baech wedi eich ynysu. Ond y pethau pwysig yw parhau i geisio delio â sawl peth ar unwaith, cynnal eich hyfforddiant, creadigrwydd, a chefnogi’r naill a’r llall trwy fentora, trafod ac uwchsgilio. Nid ydym byth bythoedd yn rhoi’r gorau i ddysgu sgiliau newydd.
Beth sydd nesaf i chi a beth arall ydych chi’n gweithio arno?
Ar hyn o bryd, rydw i’n gweithio gyda rhywfaint o brosiectau cymunedol sydd angen fy sgiliau fel hwylusydd dawns, coreograffydd neu fentor.
Rydw i’n gweithio ar hyn o bryd gydag Oasis One World Choir ochr yn ochr â’r gantores a’r gyfansoddwraig Laura Bradshaw a’r rheolwr ffilmiau a phrosiectau Tracy Pallet. Gyda’n gilydd, rydym yn cynnal sesiynau gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches trwy gyfrwng y Celfyddydau – dewiswyd ein côr i ganu yng Nghoroni’r Brenin yn Windsor ym mis Mai, a hefyd cymerodd ran mewn rhaglen ddogfen fer gan y BBC yn ymwneud â’r Brenin.
Hefyd, yn ystod yr haf byddaf yn gweithio ar nifer o brosiectau cymunedol gyda Charnifal Butetown [BACA] gyda’r Cyfarwyddwr Artistig Keith Murrell ar y cyd â Rhaglen Ymgysylltu Canolfan Mileniwm Cymru. Y llynedd, ymunais â rhaglen ymgysylltu awyr agored Articulture gan deithio o amgylch Cymru gyda Dwndwr y Dŵr – cynhyrchiad a gafodd gryn ganmoliaeth. Mae gennyf gynlluniau’n ddiweddarach yn y flwyddyn i greu gwaith ar gyfer taith fer arall a ariennir gan Race Cymru.
Ar gyfer Jazz Arts Re-wired ‘Up Close and Personal’ yn The Place, Llundain.
Y cyflwynwyr oedd Dollie Henry a Paul Jenkins, a pherfformiais gyda fy merch Ffion Campbell-Davies yn ei gwaith ar gyfer y digwyddiad.
Ble all pobl ddod o hyd i ragor o wybodaeth amdanoch, neu ddilyn eich gwaith?
Ar hyn o bryd, dim ond ar Facebook ac Instagram. Dyma faes y bydd yn rhaid imi uwchsgilio ynddo.