Goodson Thomas a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn uno i gefnogi a datblygu talent yng Nghymru
Mae’n bleser gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) a Goodson Thomas gyhoeddi partneriaeth unigryw yn y flwyddyn y mae’r cwmni chwilio rolau gweithredol dwyieithog, wedi’i leoli yng Nghymru, yn nodi ei 10fed pen-blwydd.
Mae Goodson Thomas yn arweinydd o ran gosod rolau gweithredol ac anweithredol ar draws ystod o sectorau yng Nghymru, ac wrth i’r cwmni ddatblygu gyda lansiad Penodi – cangen newydd o’r busnes sy’n canolbwyntio ar recriwtio cyfrwng Cymraeg – felly hefyd ei rhaglen eang.
Mae CDCCymru a Goodson Thomas yn rhannu synergedd sydd wedi’i wreiddio mewn arweinyddiaeth, datblygu talent, creadigrwydd, rhagoriaeth a chwifio’r faner dros Gymru gyfoes a chreadigol. Gyda’n gilydd, rydym yn datblygu partneriaeth strategol a chreadigol unigryw sy’n gosod y rhinweddau hyn yn ganolog ac sy’n ymateb i werthoedd a nodau craidd y ddau sefydliad.
Bydd y bartneriaeth yn uno’r ddau gwmni mewn gweithgaredd sy’n canolbwyntio ar gefnogi a datblygu talent, ac fel y cyfryw, mae Goodson Thomas wedi dod yn Hyrwyddwr Busnes ar gyfer rhaglen Aelodau Cyswllt Ifanc CDCCymru sydd wedi rhedeg ers tro. Mae Aelodau Cyswllt Ifanc CDCCymru yn darparu hyfforddiant dawns gyfoes ysbrydoledig i ddawnswyr ifanc 13-18 oed gan ganolbwyntio ar ddatblygiad corfforol, creadigrwydd a pherfformiad.
Mae CDCCymru a Goodson Thomas yn dymuno diolch yn ddiffuant i Celfyddydau a Busnes Cymru, sydd wedi addo cefnogaeth trwy ei raglen CultureStep sy'n buddsoddi mewn partneriaethau arloesol rhwng y sectorau Celfyddydau a Busnes, gan wella prosiectau a'u heffaith. Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn galluogi darparu gweithgarwch i ehangu cyrhaeddiad Aelodau Cyswllt Ifanc CDCCymru i rannau newydd o Gymru, gan gynyddu cyfleoedd a mynediad i ddawnswyr ifanc ledled y wlad.
I gydnabod carreg filltir Goodson Thomas bydd Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru, Matthew William Robinson, yn creu gwaith perfformio dawns newydd o’r enw Hylas. Mae Hylas wedi’i gomisiynu gan Goodson Thomas a bydd yn cael ei ddangos am y tro cyntaf mewn digwyddiad arbennig, a gynhelir yn y Tŷ Dawns ym mis Chwefror 2025. Yn unol â chenhadaeth Goodson Thomas i adnabod, datblygu a dyrchafu talent, bydd Matthew yn creu deuawd gyda dau ddawnsiwr ifanc, Charlotte Aspin ac Olivia Foskett, sydd ar leoliad gyda CDCCymru ar hyn o bryd fel rhan o Gynllun Lleoliad Ôl-raddedig Ysgol Ddawns Gyfoes Gogledd Lloegr.
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru, Matthew William Robinson: “Mae’r bartneriaeth rhwng CDCCymru a Goodson Thomas yn seiliedig ar werthoedd ac uchelgais ar y cyd. Mae’n dangos y creadigrwydd sy’n bosibl pan fydd y sectorau Celfyddydau a busnes yn cydweithio, ac edrychwn ymlaen at feithrin y berthynas ymhell i’r dyfodol wrth i ni adnabod, ysbrydoli a datblygu talent y dyfodol.”
Dywedodd Sian Goodson, Rheolwr Gyfarwyddwr Goodson Thomas: “Mae ein cydweithrediad â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn dathlu ein hymrwymiad i feithrin talent ar bob lefel. Mae cefnogi dawnswyr newydd yn cyd-fynd yn berffaith â'n gwerthoedd craidd o rymuso unigolion i gymryd eu cam nesaf yn eu gyrfa. Yn union fel yr ydym yn cefnogi swyddogion gweithredol sefydledig i ddatblygu eu gyrfaoedd, rydym yn ymroddedig i feithrin hyder mewn arweinwyr newydd. Fel rhan hanfodol o seilwaith Cymru, mae ein cydweithrediad â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn pwysleisio ein hawydd i gyfrannu at dwf diwylliannol ac economaidd Cymru. Yn ogystal, mae ein hehangiad i recriwtio cyfrwng Cymraeg gyda lansiad Penodi yn adlewyrchu ein hymrwymiad i feithrin gweithlu sy’n siarad Cymraeg a chefnogi uchelgeisiau lleol.”