
CYFRANNWCH
Yn CDCCymru rydym yn credu mewn pŵer dawns! Rydym eisiau rhannu ein hangerdd fel gall mwy o bobl wneud, gwylio, cymryd rhan a dysgu am ddawns mewn ffyrdd mwy creadigol. Fel elusen gofrestredig, rydym yn dibynnu ar gyfraniadau gan bobl hael, megis chi, i ddod â dawns i bob math o bobl mewn amrywiaeth o lefydd.
Cyfranwch
Ceir sawl ffordd i’n helpu i ddal at i ddawnsio, o roi arian yn uniongyrchol gan ddefnyddio gwefannau clyfar i godi arian heb unrhyw gost i chi.
Os hoffech gyfrannu at ein gwaith, byddem yn gwerthfawrogi unrhyw beth y gallwch chi ei wneud.

Paypal
Gwnewch gyfraniad ariannol uniongyrchol drwy Paypal (nid oes angen cyfrif Paypal arnoch i wneud hyn).
Os yn bosibl, byddem yn gwerthfawrogi pe byddech hefyd yn dewis rhodd cymorth gyda’ch rhodd, gan olygu y byddwn ni’n derbyn 25% yn ychwanegol ar ben eich rhodd heb unrhyw gost i chi.
Gallwch roi unrhyw swm fel rhodd unigol neu ar ffurf cymorth rheolaidd yn fisol neu bob blwyddyn.

Gallwch siopa ar Easyfundraising i wneud rhodd heb unrhyw gost i chi
Rydym wedi cofrestru Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru gydag easyfundraising, sy’n golygu y bydd dros 7,000 o siopa a safleoedd bellach yn cyfrannu i ni yn RHAD AC AM DDIM bob tro rydych chi’n defnyddio easyfundraising i siopa gyda nhw. Munud yn unig mae’n ei gymryd i gofrestru ac nid yw’n costio ceiniog ychwanegol i chi ein helpu ni.
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ymuno yn rhad ac am ddim drwy'r ddolen ganlynol neu lawrlwytho’r ap easyfundraising:
Yna, bob tro rydych chi’n siopa ar-lein, ewch i easyfundraising yn gyntaf i ddod o hyd i'ch safle o ddewis a dechrau siopa. Gall y cyfraniadau hyn wneud gwahaniaeth mawr i ni, felly byddem yn gwerthfawrogi pe gallech gymryd munud i gofrestru ac i’n cefnogi ni. Diolch.

Rhannwch eich pen-blwydd gyda ni
Facebook birthday fundraisers are a brilliant way that you can help raise donations for NDCWales in lieu of gifts. Bydd Facebook yn atgoffa eich ffrindiau eich bod yn dathlu eich pen-blwydd ac yn gofyn iddynt wneud rhodd i ni ar eich rhan – gallwch rannu’r postiad ac ychwanegu neges bersonol, a gosod eich nod codi arian eich hun ar gyfer y diwrnod.
I greu eich gweithgaredd codi arian a’n cynorthwyo ni i gadw Cymru’n dawnsio ewch i: