CDCCymru yn lansio Laboratori mewn partneriaeth â Groundwork Pro
Yr wythnos hon fe wnaethom lansio ein Laboratori cyntaf erioed
Yr wythnos hon fe wnaethom lansio ein Laboratori cyntaf erioed yng Nghwmni Dawns Cenedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Groundwork Pro, grŵp o artistiaid dawns annibynnol wedi ei leoli yng Nghaerdydd. O dan fentoriaeth y coreograffwyr Lea Anderson ac Eric Minh Cuong Castaing rydym yn gwahodd coreograffwyr a dawnswyr o'r sector dawns annibynnol yng Nghymru ac o'r cwmni i herio eu cysyniadau presennol o sut maent yn creu dawns a rhoi cynnig ar rywbeth newydd.
Fel cwmni cenedlaethol, mae'n bwysig i ni ein bod yn arloesi wrth ddatblygu dawns ac yn rhannu'r datblygiadau hynny ag eraill. Rydym eisiau rhoi cynnig ar syniadau coreograffig a ffyrdd newydd o weithio, yn y gobaith, y bydd rhywbeth newydd ac annisgwyl yn codi rhywle o fewn y broses. Gall fod yn hadyn bach o syniad, ond gall yr hadyn hwnnw ryw ddiwrnod ddylanwadu ar ymarfer dawns ledled Cymru, ac yn rhyngwladol.
Ar gyfer y Laboratori rydym wedi dewis saith o goreograffwyr i ymuno â'r broses. Yn ystod wythnos un, bydd Ed Myhill, Jack Philp a Gundija Zandersona yn cydweithio â Lea Anderson fel mentor a gyda'r dawnswyr Tim Volleman, Nikita Goile, Faye Tan, Elena Sgarbi, Paola Drera, Aisha Naamani, Lucy Jones, Anna Kazsuba ac Osian Meilir Ioan. Yn ystod wythnos dau, bydd Eddie Ladd, Deborah Light, Tim Volleman a Nikita Goile yn cydweithio ag Éric Minh Cuong Castaing fel mentor a gyda Camille Giraudeau, Paola Drera, Emma Lewis, Elan Elidyr, Shakeera Ahmun, Hanna Hughes, Elena Sgarbi, Ed Myhill, Folu Odimayo, Faye Tan ac Aisha Naamani fel dawnswyr.
"Nid oes gennym unrhyw syniadau rhagdybiedig ynghylch beth ddaw o'r Laboratori" dywed Fearghus Ó Conchúir, ein Cyfarwyddwr Artistig. "Galwyd yn Laboratori, oherwydd ei fod yn lle ar gyfer profi pethau. Mae canfod beth sydd ddim yn gweithio cystal yr un mor bwysig â gwybod beth sy'n gweithio. Ac mae cael yr amser i weld potensial rhywbeth sydd ddim i weld yn gweithio'n iawn ar hyn o bryd yn hynod ddefnyddiol - a rhywbeth nad oes gennym bob amser yr amser i'w wneud pan rydym yn y rhythm arferol o greu darn o goreograffi. Yr hyn sy'n gyffrous yw'r ffaith nad ydym yn gwybod beth fydd y canlyniad eto."
Rhoddodd Fearghus wahoddiad i Lea Anderson fod yn fentor ar y fenter Laboratori oherwydd ei hanes yn creu darnau o ddawns unigryw sy'n wledd i'r llygaid ar gyfer mathau gwahanol o leoliadau o leoliadau cabaret i orielau.
A gofynnodd Fearghus i Éric Minh Cuong Castaing fod yn fentor er mwyn iddo allu rhannu ei brofiad o weithio â thechnolegau dawns (fel penwisgoedd Rhith-wirionedd a dronau), ac amrywiaeth o berfformwyr.
Bydd yr wythnosau Laboratori yn broses gydweithredol rhwng y mentoriaid, y coreograffwyr a'r artistiaid dawns, lle bydd y mentoriaid yn cynnig ysgogiadau gwahanol i'r coreograffwyr eu hystyried a phwyso a mesur.
Mae'r holl broses yn dwyn ynghyd nifer o bethau sy'n bwysig i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru: rydym eisiau bod yn gyrchfan lle gall syniadau newydd ddod i'r fei, syniadau a fydd yn y tymor hir yn cyffroi ein cynulleidfaoedd yng Nghymru ac ar draws y byd. Rydym eisiau cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus yr artistiaid yn ein cwmni, yn ogystal ag artistiaid dawns yn y sector annibynnol yng Nghymru a gwyddom fod ychydig o'r datblygiad proffesiynol hwnnw yn deillio o greu cysylltiadau creadigol rhwng pob un ohonom. Oherwydd bod y Cwmni ar daith mor aml, mae'r enydau hyn o gyfnewid syniadau creadigol gyda'n cydweithwyr dawns yng Nghymru yn werthfawr.
Dros y bythefnos nesaf bydd y Laboratori yn fwrlwm o weithgarwch. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am y canlyniadau, cyn gynted ag y byddwn yn gwybod beth y gallent fod.