Joss Arnott Dance yn Cyflwyno
Emergence 2025
Dydd Iau
1 Mai 2025
Mae Emergence, cwmni dawns ôl-raddedig teithiol Joss Arnott Dance a Phrifysgol Salford, yn dychwelyd gyda rhaglen driphlyg newydd sbon o ddawns llawn adrenalin wedi’i berfformio gan gwmni newydd o ddawnswyr anhygoel.
Mae’r gweithiau newydd gan goreograffwyr gwadd ar gyfer 2025 yn cynnwys Sofia Nappi a SAY (Sarah Golding a Yukiko Masui) sy’n cipio gallu corfforol crai’r dawnswyr.
Mae’r Cyfarwyddwr Joss Arnott a Lisa Marie Robinson yn cwblhau’r rhaglen gyda gwaith newydd yn cynnwys iaith symudiad nodweddiadol a chyffrous Arnott. Byddwch yn barod i brofi rhyngweithiad celfydd rhwng symudiad a cherddoriaeth, gyda chyfeiliant gwefreiddiol cerddoriaeth newydd gan y cyfansoddwr James Keane.
Mae’r coreograffydd Eidalaidd Sofia Nappi yn cyflwyno “CHIMERA”. Mae dawns ddiweddaraf Sofia wedi’i ysbrydoli gan gefndiroedd a phersonoliaethau gwahanol o fewn cast Emergence. Mae hi wedi disgrifio’r grŵp fel “pobl ifanc sy’n awyddus i amsugno gwybodaeth ac sy’n agored i dyfu”. Mae cysyniad Chimera yn deillio o greadur chwedlonol wedi’i greu o dair gwahanol ran: gafr, neidr a llew; gan ymdoddi at ei gilydd i greu un bod unigryw. Yn yr un modd, mae’r coreograffeg yn cydblethu hunaniaeth aelodau’r cast i greu nid yn unig un creadur, ond yn hytrach, cymuned ymlynol. Mae’n dathlu undod, cydweithrediad a grym gwahaniaeth i ffurfio rhywbeth sy’n fwy na’i gydrannau unigol.
Ffoto: Frogmilk Studio
Mae SAY (Sarah Golding a Yukiko Masui) yn cyflwyno “153 8S”, sef dawns newydd wedi’i hysbrydoli gan gysyniad albwm o gerddoriaeth, gan ddefnyddio pedwar trac gwahanol. Mae pob trac yn cynnig ei rinweddau ei hun, gan greu darn ffrwydrol a gwefreiddiol. Gyda cherddoriaeth wedi’i dethol yn ofalus gan artistiaid, mae gan y coreograffwyr gysylltiad cryf gyda’r darn, gan amlygu doniau unigol pob dawnsiwr a’u cryfderau a’u harddulliau unigryw, ond hefyd yn meithrin ymdeimlad cryf o undod. Mae’r perfformwyr yn bwydo oddi ar egni ei gilydd, gan greu dynameg grŵp sy’n codi’r darn yn ei gyfanrwydd. Mae’n ddathliad cyffrous o gerddoriaeth, symudiad a chydweithrediad, gan adael argraff gyda’i ddwyster a’i fywiogrwydd.
Ffoto: Hawk Photo Film
Mae’r Cyfarwyddwr Artistig Joss Arnott a’r coreograffydd cynorthwyol Lisa Marie Robinson yn cwblhau rhaglen 2025 gyda gwaith newydd yn cynnwys iaith symudiad nodweddiadol a chyffrous Arnott. Mae’r darn yn archwilio cymhlethdod ein hyder, gan ddangos taith sy’n arwain at orfoledd, a chaniatáu’r dawnswyr i ymgolli a chyflwyno’r fersiwn orau bosibl ohonynt eu hunain. Byddwch yn barod i brofi rhyngweithiad celfydd rhwng symudiad a cherddoriaeth, a hyn oll gyda chyfeiliant cerddoriaeth newydd wefreiddiol gan y cyfansoddwr James Keane.
Emergence
Mae Emergence wedi’i ymwreiddio o fewn rhaglen MA Dawns: Arferion Perfformio a Phroffesiynol dan arweiniad y diwydiant, sy’n gwrs 12 mis sy’n canolbwyntio ar agweddau proffesiynol, wedi’i gyd-ddylunio a’i ddarparu gan Joss Arnott Dance a Phrifysgol Salford.
Mae’r rhaglen benodol yn canolbwyntio nid yn unig ar berfformio dawns fodern ar y lefel uchaf, ond hefyd yn ymdrin â gofynion ehangach y dawnsiwr proffesiynol gan gynnwys modiwlau ar gynhyrchu, dysgu a dylunio/darparu gweithdai – gan alluogi dawnswyr i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u profiad ac i ehangu ar eu cyfleoedd proffesiynol ar ôl graddio.
Mae’r dawnswyr yn dod yn rhan o gwmni dawns ôl-raddedig Emergence, sy’n gweithio gyda choreograffwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol i gynhyrchu rhaglen newydd o waith perfformio bob blwyddyn. Mae Emergence yn teithio ledled y wlad dan Arweiniad Artistig Joss Arnott gyda’r Arweinydd Rhaglen, Debbie Milner.
Mae’r dawnswyr hefyd yn datblygu eu sgiliau drwy ymgymryd â Rolau’r Cwmni drwy gydol y flwyddyn, gan weithio ym meysydd marchnata, dylunio ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, gweinyddu’r cwmni, addysg, cynhyrchu a chyfarwyddo ymarferion.
Mae cydweithrediad â’r diwydiant yn ganolog i’r rhaglen bwrpasol hon ac yn adlewyrchu amgylcheddau gwaith yn y diwydiannau creadigol gan hefyd ddarparu’r sgiliau a’r adnoddau sydd eu hangen ar y dawnswyr i lwyddo fel artistiaid dawns ac addasu i’r hinsawdd sy’n newid yn gyson.
Nod Emergence yw i gael ei ystyried fel un o’r prif gwmnïau dawns ôl-raddedig yn y DU yn gyson, gan gynhyrchu gwaith perfformio o’r ansawdd gorau ac sy’n hygyrch i gynulleidfaoedd.
Rydym yn ysbrydoli ac yn grymuso’r genhedlaeth nesaf o ddawnswyr a chrewyr drwy eu meithrin a darparu’r profiad, y wybodaeth a’r adnoddau sydd arnynt eu hangen i ddatblygu gyrfaoedd portffolio llwyddiannus a chynaliadwy yn y sector celfyddydau.