AFJ Cardiff yn Cyflwyno

AFROJAM WEEKEND

Dydd Sadwrn

7 Rhagfyr 2024

Paratowch i fod yn rhan o’r dathliad mwyaf o Ddawns Affro yng Nghymru! Yn dilyn llwyddiant ein digwyddiadau blaenorol, rydyn ni’n ôl gyda’r Penwythnos AffroJam – diwrnod llawn o ddawns, diwylliant a chymuned na welwyd ei debyg erioed. Wedi’i threfnu gan AFJ Caerdydd, y sefydliad cyntaf yng Nghymru i ganolbwyntio ar Ddawns Affro, mae’r ŵyl hon yn cynnig pump o weithdai llawn egni, hyfforddwyr enwog, trochi diwylliannol, ac noson fythgofiadwy gyda bwyd Affricanaidd i lapio'r noson.

 

Beth sy’n Newydd?

Eleni, mae Penwythnos AffroJam yn fwy ac yn well nag erioed, gyda gweithdai ychwanegol, ystod ehangach o arddulliau Dawns Affro, a phrofiadau newydd ar gyfer pawb. P’un ai a ydych chi’n newydd i’r maes, neu’n ddawnsiwr profiadol, ymunwch â ni i ddathlu rhythm, hanes, ac ysbryd dawns Affricanaidd.

 

Uchafbwyntiau’r Ŵyl

- 🕒 10:30 AM – 11:30 AM: Cofrestru a Chroeso – Cyfle i gwrdd â thîm AFJ Caerdydd a chysylltu â chyd-fynychwyr wrth i ni agor y diwrnod anhygoel hwn o ddawns a dathlu.

 

- 🕺 Gweithdai Dawns: Cymerwch ran mewn pump o weithdai unigryw dan arweiniad hyfforddwyr o safon byd-eang, am bris o £16.50 fesul gweithdy. Mae’r gweithdai’n cynnwys:

- Afro House (Angola) – Plymiwch i mewn i symudiadau egnïol, rhythmig yr arddull bywiog hwn.

- Ndombolo (Congo) – Canfyddwch y symudiadau mynegiannol sy’n nodweddu dawns o’r Congo.

Azonto (Ghana) – Profwch natur hwyliog, rydd, y ddawns chwareus hon o Ghana.

- Nigerian Style Fusion – Archwiliwch arddulliau dawns bywiog dan ddylanwad y Nigerian Afrobeats.

- Afro Fusion – Cyfle i gyfuno arddulliau Affro gyda dylanwadau cyfoes, gan feithrin creadigrwydd.

 

- 🌟 Perfformiad Arbennig: Gwyliwch AFJ Caerdydd yn llenwi’r llwyfan â pherfformiad ecsglwsif 9-munud o hyd sy’n cyfleu hanfod Dawns Affro.

 

- 💬 Panel a Sesiwn Rhwydweithio: Cyfle i ymgysylltu â’r hyfforddwyr a’r dawnswyr eraill, ac archwilio’r effaith ddiwylliannol a’r cyfleoedd proffesiynol ym maes Dawns Affro.

 

- 🎶 Ôl-barti Affro: Daw’r diwrnod i ben gyda’n set Afrobeat DJ, a fydd yn tynnu pawb at ei gilydd i ddathlu rhythm, cerddoriaeth, a chymuned.

 

Pam na ddylech chi ei golli:

Mae’r digwyddiad hwn yn fwy na dim ond gŵyl ddawns; mae’n ddathliad o ddiwylliant, amrywiaeth, ac undod. Mae Penwythnos AffroJam yn brofiad trochol sy’n cynnig cyfle unigryw i ddysgu, ymgysylltu, a mwynhau diwylliant Affricanaidd drwy ddawns,

-cerddoriaeth a bwyd – a’r cyfan oll yn digwydd fel rhan o gymuned fywiog Dawns Affro yng Nghymru.

 

Dates
Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 2024, 10:30