Jones The Dance yn Cyflwyno

Y Dewis

Dydd Sul

12 Mai 2024

Crëwyd a chyfarwyddwyd gan Gwyn Emberton.

Gêm lawn dewisiadau yw bywyd.

Profwch y gêm sinematig lle mai chi sy’n dewis sut y bydd y stori’n mynd, yng nghanol eich ardal chi.

Ieithoedd: Saesneg, Cymraeg ac Iaith Arwyddion Prydain
Oed: 9+
Hyd: 2 awr

Profwch y gêm sinematig lle mai chi sy’n dewis sut y bydd y stori’n mynd, yng nghanol eich ardal chi.

Ymunwch â’n gwesteiwyr, cyflwynydd byw a’r llefarwr ar y sgrin, Natura. Gyda’i gilydd fe fyddant yn eich cludo o amgylchedd cyfarwydd Caerdydd i ben clogwyni epig Ynys Môn.  Yno, bydd pedwar person ifanc, pob un â’i stori i’w dweud, yn cyfarfod yng ngwaith brics hardd, adfeiliedig Porth Wen.

Mack eisiau dim byd mwy na bod yn fo ei hun. Wedi ei ddychryn gan brofiadau blaenorol pan ddatgelodd ei wir bersonoliaeth, mae’n teimlo ei fod yn cael ei gyfyngu gan gymdeithas a’r bobl o’i gwmpas.
Ez yn ddryslyd am sut i fod yn ddyn ifanc mewn cymdeithas sy’n ei orfodi i ymddwyn mewn ffordd benodol. Mae’n ysu am gael ei hoffi ond mae’n gweld ei hun yn baglu trwy ei gysylltiadau â phobl.
Indy yn galw ei hun yn ffeminist gwael, ond nid hi sy’n ei gwneud hi felly. Mae’r syllu didrugaredd o’i chwmpas yn gwneud iddi stopio ei hun o hyd. 
Ieua yn dioddef o orbryder eithafol a phroblemau iechyd meddwl eraill. Gall fod yn obsesiynol ac mae’n poeni bod hyn yn gwneud i bobl droi cefn arni. Ond allith hi ddim helpu’r peth.

A gyda chymorth y Cyflwynydd, chi sy’n cael dewis sut y bydd stori pob un ohonynt yn datblygu. Bydd y dewisiadau y byddwch chi’n eu gwneud ar y cyd yn synnu pob un ohonynt. Pwy ŵyr? Chithau hefyd efallai.

Ysbrydolwyd y profiad newydd hwn gan Jones y Ddawns, gan storïau pobl ifanc ar draws Cymru, yn archwilio beth mae’n ei olygu i fod yn ceisio deall nhw eu hunain yn y byd sydd ohoni heddiw. Mae’r ffilm yn bersonol, ac eto yn epig a sinematig, gan blethu Saesneg, Cymraeg a BSL. Gyda’i chymysgedd o ddawns a stori, y cyfan ar gefnlen naturiol eithriadol sy’n cwmpasu gorffennol diwydiannol, mae’n ddathliad o Gymru, dawns Cymru a gobaith pobl ifanc.

Dysgwch ragor am y ffilm yma

Ffilmiau byr a wnaed gan gwmni ifanc Jones y Ddawns

Mae pob perfformiad yn cynnwys ffilm fer a wnaed gan ddawnswyr ifanc o Gymru, wedi eu hysbrydoli gan y ffilm a’r cysyniad pwy sydd gan yr hawl i ddewis neu beidio.

Ieithoedd

Saesneg, Cymraeg ac Iaith Arwyddion Prydain (is-deitlau, troslais a chyfieithu)
(Mae’r ffilm mewn tair iaith, gydag isdeitlau, troslais ac iaith arwyddion. Bydd yr elfen fyw yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg gyda rhai perfformiadau mewn BSL a Chyfieithu i’r Saesneg ar y pryd).

Yn addas ar gyfer

Pob oedran ond yn ddelfrydol i rai 9 oed a hŷn.

Gwybodaeth am Hygyrchedd

Yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl

Mae’r perfformiad yn gymysgedd o ffilm a pherfformiad byw lle gofynnir i chi, y gynulleidfa, ddewis beth ydych chi am ei weld yn digwydd nesaf.

Mae’r noson gyfan yn cael ei harwain gan Gyflwynydd. Bydd yn cyflwyno ei hun i chi wrth i chi gyrraedd y gofod ar gyfer y perfformiad. Bydd yn siarad Cymraeg neu Saesneg neu’r ddwy iaith. Ar gyfer rhai perfformiadau bydd y Cyflwynydd yn Fyddar a bydd yn defnyddio iaith arwyddion a bydd cyfieithydd yn gydymaith iddo/iddi.

Mae’r ffilm yn canolbwyntio ar bedwar cymeriad ac un llefarydd, y cyfan yn eu hugeiniau. Gofynnir i chi wneud cyfres o ddewisiadau fel grŵp. Byddwch yn gwneud hyn trwy godi eich llaw. Nid oes raid i chi, os byddai’n well gennych beidio, gallwch eistedd yn ôl a gwylio’r perfformiad.

Bydd y llefarydd yn defnyddio iaith arwyddion yn y ffilm a fydd yn cael ei drosleisio yn Saesneg gydag isdeitlau Cymraeg a Saesneg. Bydd y pedwar cymeriad arall yn siarad ond dim ond fel deialog fewnol yr ydych chi’n cael ei chlywed neu ei darllen ar y sgrin. Byddant yn siarad yn y Gymraeg neu’r Saesneg a bydd isdeitlau mewn Cymraeg a Saesneg. 

Os dymunwch gallwch gael sgript o’r holl destun ymlaen llaw. Nid ydym am ddatgelu unrhyw gyfrinachau am y ffordd yr ydym wedi gwneud y sioe felly bydd rhai pethau wedi eu golygu allan neu eu tynnu’n llwyr. Cysylltwch â’r cynhyrchydd Kama.

Yn dilyn y perfformiad bydd sgwrs ar ôl y sioe lle gallwch chi eistedd a holi’r Cyflwynydd neu wneuthurwyr y sioe, rhannu eich syniadau neu wrando ar yr hyn sydd gan bobl eraill yn y gynulleidfa i’w ddweud. Nid oes raid i chi aros ar gyfer hyn os byddai’n well gennych beidio. Bydd yn para tua 20 munud.

A dancer in an orange shirt running through the woods, hair flying behind them

EI DEIMLO GWEITHDY

Fel rhan o Y Dewis, mae’r rhai sy’n prynu tocyn yn cael cyfle i ddysgu ychydig mwy am y ffilm, mewn gweithdy hwyliog a rhwydd, ychydig cyn y sioe. Cewch gyfle i roi cynnig ar ychydig o’r coreograffi yn y ffilm. Bydd y gweithdai’n para 30 munud ac yn cychwyn un awr cyn Y Dewis. 

Mae’r gweithdai’n ddelfrydol i deuluoedd, yn addas i bob oed a gallu ac ni fyddant yn rhy galed. Byddant yn cael eu harwain gan y Ddawnswraig Amber Howells/y Cyfarwyddwr Ymarfer Eli Williams/y Coreograffydd Gwyn Emberton

Ysbrydolwyd Y Dewis gan storïau pobl ifanc ar draws Cymru, ac mae wedi ei greu a’i gyfarwyddo gan y Cymro a’r Coreograffydd a Chyfarwyddwr Artistig Jones y Ddawns, Gwyn Emberton.

Cynhyrchiad Jones y Ddawns gyda Theatr Clwyd, Pontio, Dawns i Bawb, Hwb Byddar Cymru

Wedi ei greu, ei gyfarwyddo a’i goreograffu gan Gwyn Emberton, ar y cyd â’r perfformwyr a’r gwneuthurwyr ffilm sy’n dod yn amlwg Aaron Lindblom, Kenny Ly a Victor Söderlund Lundvall. Yn cynnwys sgôr hyfryd gan Siôn Trefor, y cyfansoddwr ffilm, teledu a theatr enwog o Gymru, dyluniad sain gan Nick Davies, dillad a set wedi eu dylunio gan Lois Prys, a’r testun gan Iola Ynyr, Sarah Adedeji a Gwyn Emberton. Kama Roberts yw cynhyrchydd Y Dewis. Fe’i cefnogir gan gyllid gan Cyngor Celfyddydau Cymru, Kulturrådet, Tŷ Cerdd, Abderrahim Crickmay Charitable Trust, Magic Little Grant via Local Giving.

Rhoddwyd caniatâd caredig i ffilmio yng Ngwaith Brics Porth Wen gan y perchenogion. Mae’n safle hen, bregus ac eithriadol o beryglus. Nid oes mynediad i’r cyhoedd. Rydym yn gofyn yn garedig i chi, ar ran y perchenogion, i beidio ag ymweld. Rydym yn meddwl y byddwch yn mwynhau cymaint ar ei harddwch adfeiliedig yn y ffilm.

 

Jones the dance logo

Cawsom ein ffurfio gan y coreograffydd a'r dawnsiwr Gwyn Emberton, sydd bellach yn Gyfarwyddwr Artistig, a Kate Perridge ein Cynhyrchydd Gweithredol. Yn wreiddiol, a elwir yn Gwyn Emberton Dance, rydym yn newid ein henw i Jones the Dance wrth i ni ddod yn llawer mwy na chwmni dawns o waith Gwyn ei hun.

Mae'r ddawns a wnawn bob amser wedi bod yn lle i adeiladu cymuned, lle gall dawnswyr ehangu eu gorwelion creadigol, gall pobl ifanc archwilio a thyfu ac i gynulleidfaoedd brofi'r cynyrchiadau dawns o'r ansawdd uchaf yn lleol.

Galeri
dancers running through forest
dancers entangled in a lift on a mountainside
dancers surrounding one floating in the sea
dancers on castle ruins
Dates
Dydd Sul 12 Mai 2024, 16:00
British sign language interpretation