Joss Arnott Dance yn Cyflwyno
Emergence 2024
Dydd Sadwrn
25 Mai 2024
Triawd o weithiau dawns
Mae Emergence, cwmni dawns ôl-radd teithiol Joss Arnott Dance a Phrifysgol Salford, yn cyflwyno tri o weithiau dawns hynod gyffrous ar gyfer y rhaglen eleni, a byddant yn cael eu perfformio gan gwmni newydd o ddawnswyr eithriadol.
Mae Emergence, cwmni dawns ôl-radd teithiol Joss Arnott Dance a Phrifysgol Salford, yn cyflwyno tri o weithiau dawns hynod gyffrous ar gyfer y rhaglen eleni, a byddant yn cael eu perfformio gan gwmni newydd o ddawnswyr eithriadol.
Mae Noa Zuk, y coreograffydd o Israel, yn cyflwyno ‘The Ladder’, gyda cherddoriaeth newydd gan Ohad Fishof. Mae gwaith dawns newydd Noa yn archwilio iaith symud slic ac arddulliedig sy’n llawn mynegiant a rhythm ac a ysgogir gan dechneg gaga.
Mae ‘Dogma’ gan Miguel Altunaga yn cyfleu natur gorfforol y dawnswyr, a daw hyn yn fyw ar y llwyfan trwy gyfrwng eu meistrolaeth a’u cryfder fel perfformwyr. Ceir cerddoriaeth newydd gan Sabio Janiak.
Mae Joss Arnott, Cyfarwyddwr Artistig, yn cwblhau’r triawd gyda ‘SURGE’. Ymddangosodd y gwaith hwn yn rhaglen y llynedd hefyd, ac mae’n dathlu iaith symud fywiocaol sy’n nodweddiadol o Arnott ac a ailwampiwyd gyda dawnswyr y cwmni eleni. Gwledd ddramatig, danllyd yn llawn roc a rôl – byddwch yn barod am gydadwaith rhwng symud a cherddoriaeth i gyfeiliant cerddoriaeth ergydiol, wefreiddiol James y cyfansoddwr.
Sylwer: Mae’r rhaglen hon yn cynnwys cerddoriaeth uchel a themâu’n ymwneud â marwolaeth, a defnyddir tarth a goleuadau sy’n fflachio (dim goleuadau strôb)
Cwmni dawns ôl-radd Joss Arnott Dance a Phrifysgol Salford yw Emergence, ac mae wedi’i ymwreiddio mewn rhaglen ddawns MA: Perfformio ac Arferion Proffesiynol, a gaiff ei harwain gan y diwydiant.
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar berfformiadau dawns cyfoes a theithiol o’r radd flaenaf, ond mae hefyd yn mynd i’r afael ag anghenion ehangach dawnswyr proffesiynol, a cheir modiwlau’n ymwneud â chynhyrchu, addysgu a llunio/cyflwyno gweithdai – gan alluogi dawnswyr i feithrin eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u profiad fel y gallant ehangu eu cyfleoedd proffesiynol ar ôl graddio.