CDCCymru yn Cyflwyno

Ymarferion Agored

2024

1 awr

Eisiau gwybod mwy am sut yr ydym yn creu ac yn gwneud dawns? Rydym yn agor drysau ein hystafell ymarfer felly gallwch gael cipolwg ar yr hyn sy'n digwydd yn y stiwdio. 

Yn ystod y broses o greu ein gwaith newydd gallwch alw heibio am awr a darganfod beth rydym wedi bod yn gweithio arno yn yr ymarfer. Gallwch weld coreograffwyr a dawnswyr ar waith yn ystod y broses greadigol, gan roi blas tu ôl i’r llenni a syniad o sut mae’r gwaith yn cael ei greu.

Hefyd cewch gyfle i ofyn cwestiynau ar y diwedd mewn awyrgylch didwyll, hamddenol a chyfeillgar. Mae croeso i chi wneud braslun neu eistedd yn mwynhau’r ymarfer.

Ddim yn gallu mynychu wyneb yn wyneb? Bydd yr ymarfer hwn hefyd yn cael ei ffrydio ar-lein – ewch i’n gwefan i wylio

 

Ymunwch â ni am Ymarfer Agored yn y Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru – cartref Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.  
Dewch i godi cwr y llen a gweld sut mae dawns yn cael ei chreu wrth inni agor drysau'r ystafell ymarfer i’r cyhoedd.  
 

"Yn ddiweddarach eleni (2024) bydd gennym sioe ddwbl o weithiau dawns yn teithio ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Bydd un o’r gweithiau hynny wedi’i greu gan yr artist Awstralaidd/Jafanaidd Melanie Lane; nid yw ei gwaith hi ei hunan wedi’i weld yn y Deyrnas Unedig erioed . Fi fydd wedi creu hanner arall y noson.

 

Rwyf wrth fy modd yn cael tynnu tîm cydweithredol o artistiaid rhagorol ynghyd, gan gynnwys dawnswyr ein cwmni, y cynhyrchydd cerddoriaeth o fri Torben Sylvest, y cynllunydd gwisgoedd a’r artist gweledol Cymreig George Hampton Wale, a’r cynllunydd goleuo o Gymru Emma Jones.

Enw’r gwaith ydy AWST, a dyma gip i chi ar rywfaint o’r gwaith ysgrifennu rwyf wedi bod yn ei ddatblygu ar gyfer ein rhaglen i’w rannu â’r cynulleidfaoedd."

Matthew William Robinson

AWST gyda Matthew William Robinson 
22 May 6-7yh 

 

Wrth i’r haul fachlud newidiodd popeth.

Mae AWST wedi’i ysbrydoli gan fachludoedd. Ennyd rhwng dydd a nos. Gofod rhwng trefn a rhyddid, disgyblaeth a diofalwch.

Wedi’u trochi yn y lliwiau sy’n pylu yn y cyfnos a golau neon llachar y nos, bydd dawnswyr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn troedio tir synhwyrus sy’n hofran rhwng perygl a phrydferthwch.

Mae AWST yn ymwneud â sawl diweddglo a ffarwelio. Mae’n ymdrin â’r newidiadau sy’n ein taflu at ein gilydd ac yn ein rhwygo ar wahân.

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth barod, rwy’n edrych ymlaen at rannu AWST â chi yn yr hydref.

august
Melanie Lane

Skinners Ymarfer Agored gyda Melanie Lane
24 Mehefin 6-7yh

Ymunwch â Melanie a’n dawnswyr ar gyfer gwaith dawns newydd sy’n ymdrin â’r modd y mae rhyngwynebau technolegol newydd rhwng y ddynoliaeth a’r byd digidol yn newid y profiad a gawn o’n cyrff. Gan ddefnyddio damcaniaethau ‘Uncanny Valley’ (yr anesmwythyd a deimlir pan fo robotiaid ac ati yn hynod debyg o ran pryd a gwedd i bobl), mae SKINNERS yn troedio byd lle mae cyrff dynol yn llithro rhwng cnawd a rhith, ffaith a ffug.

 

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn elusen a’i nod yw gwneud dawns ar gael i bawb yng Nghymru, ac felly mae modd i chi ddod i’r digwyddiad hwn am ddim. Bydd croeso cynnes yn aros amdanoch.

Os, fodd bynnag, ydych chi mewn sefyllfa i dalu’r hyn a fynnwch tuag at docyn ar gyfer y digwyddiad hwn, byddwch yn helpu CDCCymru i barhau i gyfoethogi bywydau eraill drwy ddawns.

P’un a ydych yn mynychu am ddim, neu’n talu faint rydych yn teimlo sy’n addas, archebwch docyn ymlaen llaw er mwyn rhoi gwybod inni eich bod yn dod, gan mai nifer cyfyngedig o seddi sydd ar gael.

Yn digwydd
Dydd Mercher 22 Mai 2024, 18:00
Dydd Mercher 26 Mehefin 2024, 18:00
Dydd Mercher 24 Gorffennaf 2024, 18:00