Dance for Parkinson's ballet pose
CDCCymru yn Cyflwyno

Dawns ar gyfer Parkinson’s

Dydd Iau

Bob wythnos

Mae dosbarthiadau Dawns ar gyfer clefyd Parkinson’s yn hwyliog ac yn anffurfiol.

Mae pobl yn cerdded allan o’n dosbarthiadau wedi’u trawsnewid: yn teimlo’n dalach, yn fwy hyderus, yn fwy sefydlog, ac yn gallu siarad yn fwy eglur.

Ond y peth mwyaf nodedig yw’r wên fawr o fwynhad mewnol ac allanol a welwn ar wynebau pobl. Dewch i ymuno â ni!  

Mae’r dosbarthiadau’n cynnig ymarferion symud a llais gyda’r bwriad o’ch helpu i reoli’r profiad o fyw gyda chlefyd Parkinson’s.

Gall dawnsio helpu pobl i symud yn rhwyddach, gall ddatblygu sadrwydd osgo’r corff, asgwrn cefn mwy ystwyth, ynghyd â gwella balans, tra bo’r defnydd o rythm a llais yn gallu helpu gyda chiwiau symud a mynegiant.

Mae’r dosbarthiadau ar gael i’r rheiny sy’n byw â chlefyd Parkinson’s, ynghyd â’u teuluoedd, eu hanwyliaid a’u gofalwyr.

Profwyd bod dawns yn datblygu hyder a chryfder, wrth leddfu rhai symptomau bob dydd cyfranogwyr. Mae dosbarthiadau yn greadigol ac yn hyrwyddo teimladau o ryddid rhag cyfyngiadau corfforol a chymdeithasol Parkinson’s.

Rydym yn hwb Cysylltiedig ar gyfer rhaglen Dance for Parkinson's, English National Ballet. 

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Dawns ar gyfer Parkinson's bellach ar gael mewn lleoliadau ledled Cymru, gan gynnwys:

  • Dydd Llun: Coleg Cambria, Wrecsam.

  • Dydd Mawrth: Pontio, Bangor

  • Dydd Iau: Tŷ Dawns Caerdydd

  • Dydd Gwener: Ar-lein

Am ragor o wybodaeth ac i archebu lle mewn dosbarth, sgroliwch i lawr.
Rydym yn cynnal dosbarthiadau’n rhithiol ac wyneb yn wyneb ar hyn o bryd mewn lleoliadau gwahanol.

Dosbarthiadau Ar-lein

Mae'r rhain yn 90 munud o hyd, ac yn cael eu cynnal drwy raglen o’r enw Zoom, a gallwch ymuno o gysur eich cartref eich hun gan ddefnyddio gliniadur, dyfais tabled neu deledu clyfar - y cwbl sydd ei angen arnoch chi yw cadair.

Dosbarthiadau Wyneb yn Wyneb

Mae'r rhain yn 1 awr a 15 munud o hyd ac yn cynnwys diod poeth a danteithion melys.

Cwestiynau Cyffredin

Beth i'w ddisgwyl

Nod ein dosbarthiadau yw gwella symudedd a lleferydd unigolion sy’n byw gyda Parkinson’s, drwy ymarferion symud a lleisiol ynghyd â cherddoriaeth fyw. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy’n ymuno heb unrhyw brofiad o ddawnsio, ac nid ydych angen profiad o gwbl i fwynhau ac i elwa o’r dosbarth.

Mae dosbarthiadau’n dechrau gydag ymarferion cynhesu wrth eistedd ar gyfer y breichiau, y coesau a’r llais, cyn symud ymlaen at sgiliau gwerthfawr fel codi, cerdded heb stopio a symud yn rhydd. Fel arfer, rydym yn gorffen gyda chân, coffi a sgwrs gymdeithasol dros ychydig o fisgedi.

Gallwch wylio ein fideos isod i ddysgu mwy, neu beth am anfon neges atom i gael eich sesiwn cyntaf am ddim i weld sut beth yw’r dosbarthiadau.

Cofrestru

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am Ddawns ar gyfer Parkinson's cyn ymuno, gallwch anfon e-bost atom ni i ddysgu mwy, neu sgroliwch i lawr i archebu lle. Mae dosbarthiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein yn cael eu harchebu ar wefan bob lleoliad unigol.

Talu

Gallwch dalu yma ar ein gwefannau gan ddefnyddio paypal neu eich cerdyn credyd neu ddebyd, drwy ein ffonio i ddefmawr i bartneriaid a gofalwyr ymuno â'r dosbarthiadau, ac rydym yn eu hannog nhw i symud, dysgu a chanu hefyd. Rhaid i bawb sy'n mynychu dosbarthiadau gymryd rhan, a dylent hefyd dalu i fynychu.nyddio cerdyn dros y ffôn, neu drwy anfon siec atom yn y post. E-bostiwch info@ndcwales.co.uk am ragor o fanylion.

Partneriaid a Gofalwyr

Mae croeso

Nid oes gen i Parkinson’s, ydw i’n cael mynychu?

Mae'r dosbarthiadau hyn wedi’u dylunio’n benodol ac yn wyddonol gyda Parkinson’s dan sylw. 

A oes angen Gwirfoddolwyr arnoch?

Rydym bob amser yn falch o glywed gan wirfoddolwyr brwd i helpu i osod popeth a chynnig cefnogaeth yn ystod y wers.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â gwirfoddoli: https://ndcwales.co.uk/cy/en/about/jobs

SGROLIWCH YR HOLL FFORDD I WAELOD Y DUDALEN I ARCHEBU DOSBARTHIADAU AR-LEIN A DOSBARTHIADAU WYNEB YN WYNEB
 

COLEG CAMBRIA, WRECSAM

Dydd Llun 1yp - 2.15yp

 

PONTIO, BANGOR

Dydd Mawrth 1.30yp -3.45yp

 

TŶ DAWNS, CAERDYDD

Dydd Iau 2yp - 3.15yp

 

 

Adolygiadau

"Mae’n gwneud imi deimlo y galla i ymdopi’n well, galla i gerdded yn well...does dim moddion gwell na hyn. Dwi’n dod i mewn yn teimlo fel hen wraig fach, ond dwi’n gadael yn teimlo’n eithaf tal.“

-Angela Harrison, Cyfranogwr

“…y cwbl maen nhw ei angen yw hyder ynddyn nhw’u hunain i deimlo y gallan nhw roi cynnig ar symudiadau gwahanol – rhai na fydden nhw wedi bod yn ddigon hyderus i roi cynnig arnyn nhw o’r blaen. Efallai eu bod nhw’n dod i mewn ychydig yn gefngrwm, ond erbyn y diwedd maen nhw’n llawer mwy hyderus ac yn fwy agored.” 

Yvette Wilson, Artist Dawns

“Mae bod yn wirfoddolwr gyda ‘Dawns ar gyfer Parkinson's’ CDCCymru yn brofiad llawen oherwydd y dawnsio, gwneud cysylltiadau, rhannu a  gwrando ar straeon bywyd, cyfrannu, teimlo eich bod yn perthyn, a chwerthin.”

Sally Varrel – Gwirfoddolwr, Dawns ar gyfer Parkinson’s Caerdydd

"Am sesiwn fendigedig a syniad diddorol ar gyfer pawb sy’n gweithio, byw ynteu’n ymwneud â phobl gyda Parkinson's. Rwyf mor falch ‘mod i wedi medru mynychu. Mae wedi fy ysbrydoli i deimlo y buaswn yn hoffi gwneud rhagor gyda dawns yng nghyswllt pobl sy’n byw gyda’r cyflwr hwn."

-Cyfranogwr, Nyrs Parkinson's Arbenigol, Caerdydd, 2012

“Fe wnes fwynhau bob wythnos, rwyf yn sicr ei fod yn helpu gyda bywyd bob dydd, rydym yn gadael yn teimlo’n hapus.”

-Cyfranogwr, Caerdydd

English National Ballet Logo

Mae'r rhaglen hon mewn partneriaeth â Bale Cenedlaethol Lloegr.

Mae rhaglen Dawns ar gyfer Parkinson’s Bale Cenedlaethol Lloegr wedi bod yn rhedeg ers 2008, ac mae dosbarthiadau’n cael eu cynnal yn Llundain, yn ogystal ag yn genedlaethol mewn partneriaeth â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, DanceEast yn Ipswich, MDI yn Lerpwl a Chyngor Dinas Rhydychen.

Rydym yn falch o fod yn rhan o aelodau Dance for PD, i gefnogi Partneriaeth a Phobl yn Dawnsio gan Dawns ar gyfer Parkinson’s ac i gael cysylltiad â Parkinson’s UK.

Mae rhaglen genedlaethol Dawns ar gyfer Parkinson’s ENB yn mwynhau cysylltiadau agos gyda Parkinson’s UK a’r Gymdeithas Clefyd Parkinson’s Ewropeaidd EPDA.

Astudiaeth Prifysgol Roehampton

Yn digwydd
Caerdydd
Ty Dawns
Dydd Iau 2 Mai 2024, 14:00
Dydd Iau 9 Mai 2024, 14:00
Dydd Iau 16 Mai 2024, 14:00
Dydd Iau 23 Mai 2024, 14:00
Dydd Iau 6 Mehefin 2024, 14:00
Dydd Iau 13 Mehefin 2024, 14:00
Dydd Iau 20 Mehefin 2024, 14:00
Dydd Iau 27 Mehefin 2024, 14:00
Dydd Iau 4 Gorffennaf 2024, 14:00