Phoenix Dance yn Cyflwyno

Emergence

Dydd Sadwrn

16 Mawrth 2019

Mae'r cwmni beiddgar hwn o 12 dawnsiwr yn dechrau ar eu taith gyntaf gyda gweithiau newydd a grëwyd yn arbennig ar eu cyfer gan Gyfarwyddwr Artistig Phoenix Dance Theatre, Sharon Watson, a Chyfarwyddwr Artistig y cwmni, Joss Arnott.

Gan ddechrau gyda'r syniad o rymuso, mae'r ddau goreograffydd wedi creu darnau sy'n manteisio i'r eithaf ar gryfderau arbennig y dawnswyr.

Mae And still I walk... gan Sharon wedi'i ysbrydoli gan y bleidlais i fenywod a'r brwydrau sy'n dal i’n hwynebu ni fel bodau dynol heddiw. Mae gwaith Joss Arnott When Worlds Collide, yn ddosbarth meistr technegol llawn asbri, sy'n cynnwys sgôr o gerddoriaeth wreiddiol, sinematig a dylunio goleuo cywrain.

Emergence yw cwmni dawns ôl-raddedigion newydd sbon yr arobryn Joss Arnott a Phrifysgol Salford.

Dates
Dydd Sadwrn 16 Mawrth 2019, 19:30