Darganfod Dance gyda Fearghus Ó Conchúir | Dance House Wales
Cardiff Dance Festival yn Cyflwyno

Darganfod Dance gyda Fearghus Ó Conchúir

Dydd Sadwrn

23 Tachwedd 2019

Gweithdy ar wneud grwpiau

Rhan o ddefnydd parhaus Fearghus o symudiad fel ffynhonnell wybodaeth yw Tir Cyffredin i ganfod sut gallai grwpiau gael eu gwneud.

Bydd Fearghus yn rhannu peth o’i brofiad fel symudwr a gwneuthurwr yn ei bumed degawd fel symbylydd ar gyfer byrfyfyrio a chyfansoddi i grwpiau. Bydd rhywbeth hen-ffash, yn cynhyrchu rhywbeth newydd drwy fenthyca beth bynnag sy’n ddefnyddiol a hyd yn oed yn las. Bydd sesiwn gynhesu, lot o ddawnsio ac eiliadau o fyfyrio a thrafod er mwyn creu mwy o symud.

Coreograffydd, artist dawns a chyfarwyddwr artistig yw Fearghus Ó Conchúir. Wedi’i fagu yn Gaeltacht An Rinn yn Iwerddon, cwblhaodd raddau mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Ewropeaidd yng Ngholeg Madlen Rhydychen cyn hyfforddi yn Ysgol Dawns Gyfoes Llundain.

Gan gydweithredu’n aml ag artistiaid ac arbenigwyr o ddisgyblaethau eraill, mae’n eiriolwr brwd dros yr hyn y gall y ddawns ein helpu i’w ddeall am sut rydyn ni’n byw yn y byd. Mae ei waith, a gyflwynir o gwmpas y byd, yn creu fframweithiau ar gyfer cynulleidfaoedd ac artistiaid i adeiladu cymunedau gyda’i gilydd.

Ymunodd Fearghus â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn 2018.

Dates
Dydd Sadwrn 23 Tachwedd 2019, 11:00